Bore Mawrth arall a datblygiadau mawr eraill. Ar ddwy ochr yr Iwerydd, efo dim ond Iwerddon rhyngddyn nhw, mae dwy wlad yn dynesu at benodi menywod yn arweinwyr am y tro cynta’. Ac nid dyna’r unig debygrwydd.

Mae Kamala Harris yn yr Unol Daleithiau ac Eluned Morgan yng Nghymru’n cael eu cyfle ar ôl i arweinwyr gwrywaidd cloff gamu o’r neilltu… a hynny ar ôl i Joe Biden a Vaughan Gething barhau yn rhy hir i wingo yn erbyn y dyfodol.