Does dim cuddio’r ffaith bod y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a ffermwyr wedi bod yn fregus tu hwnt dros y flwyddyn ddiwethaf.

O’r cwyno am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, i filoedd yn protestio tu allan i’r Senedd; mi roedd hi’n amlwg bod arwr arna ni i achub y dydd.

Roedd y Cynllun Ffermio fel ag yr oedd yn gorchymyn ffermwyr i ddefnyddio canran o’u tir ar gyfer defnydd pwrpasol penodol, er mwyn derbyn cymhorthdal gan y llywodraeth.