Daeth y Tour de France i ben yn Nice eleni, gyda Pharis yn paratoi at y gemau Olympaidd sy’n cychwyn yn penwthnos hwn. A Tadej Pogacar o Slofenia oedd yn gwisgo’r siwmper felen ar y diwedd gan gadarnhau ei safle fel y seiclwr gorau ers Eddy Merckx. Mae Pogacar yn gallu ennill unrhyw ras, ac yn aml mae o’n gwneud. Ar ôl curo’r Giro d’Italia ym mis Mai, mae wedi ennill y Tour de France yn hawdd, gyda neb yn agos i’w wrthwynebu.