Yn wythnos y Sioe Fawr, mae llyfr newydd i gofio am y digymar Dai Llanilar, y dyn oedd â’r ddawn brin o gyfathrebu gyda phawb a phob un…

Yr wythnos yma mae S4C wedi ail-enwi ei bafiliwn ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd yn ‘Corlan Dai Llanilar’, a llechen wedi ei dadorchuddio yno er cof am y cyflwynydd, yr amaethwr a’r canwr poblogaidd a fu farw ym mis Mawrth 2022.