Mae gan Gymro sy’n gwibio ar ddwy olwyn y gallu i gyrraedd y brig yn y Gemau Olympaidd sy’n cychwyn ym Mharis y penwythnos hwn. Gruffudd ab Owain sydd â’i hanes…
Ers blynyddoedd, mae timau Prydain wedi hawlio’u lle ar ben y byd seiclo yn y Gemau Olympaidd, gan ennill y nifer fwyaf o fedalau yn y gamp yn 2008, 2012, 2016, a 2020.
Seiclo yw un o gryfderau mawr Prydain; mae seiclwyr y wlad wedi ennill 100 medal ar ddwy olwyn ers y Gemau cyntaf ym 1896, a 38 o’r rheiny’n rhai aur. Dim ond yn y byd athletau y ceir nifer uwch o fedalau, 210.
Am rai blynyddoedd, ffynnodd dynion Prydain ar y ffordd ochr yn ochr â’r llwyddiant Olympaidd. Roedd sefydlu Team Sky yn 2010 yn ymgais, i raddau, i efelychu’r oruchafiaeth honno welwyd yn y vélodrome i’r rasio proffesiynol gwrywaidd ar y ffordd.
Roedd hynny’n llwyddiant ysgubol. Wedi buddugoliaeth Bradley Wiggins yn y Tour de France yn 2012, aeth Chris Froome ymlaen i ennill pedwar crys melyn o bump posib rhwng 2013 a 2017 yn ogystal â dwy Vuelta ac un Giro, heb anghofio buddugoliaeth Geraint Thomas yn 2018. Hynny ar ben arwain Mark Cavendish i dair buddugoliaeth cymal o’i 35 hanesyddol yn Tour 2012, ac ennill Tour 2019 diolch i’r Colombiad Egan Bernal.
Ni chafwyd y fath fuddsoddiad i seiclo menywod. Yn y degawd diwethaf bu i Lizzie Deignan serennu ar y lefel uchaf un, ond nid i’r un graddau ysgubol ag y gwnaeth Nicole Cooke rhwng tua 2003 a 2008, sydd wedi bod yn ddamniol am y diffyg cefnogaeth a gafodd hi.
Cyn-ddisgybl Ysgol Gwaun Gynfi yn Neiniolen ac Ysgol Brynrefail, David Brailsford, oedd yr ymennydd, i raddau helaeth, y tu ôl i’r llwyddiant yma, a’i athroniaeth ‘marginal gains’ o wella pob manylyn o 1%. Daeth cysgod dros eu llwyddiant yn 2018 ac ’19 gydag achos salbutamol Froome ac adroddiad damniol i gamddefnydd o system sy’n rhoi eithriadau i rai allu defnyddio cyffuriau penodol.
Ers 2019, cwmni Jim Ratcliffe, Ineos, ydy noddwr mawr y tîm. Bellach, mae Ineos wedi dod yn enw cyfarwydd ar draws byd y campau, gan gynnwys yn y byd pêl-droed gydag OGC Nice, ac yn fwy diweddar, Manchester United. Brailsford ydy Cyfarwyddwr Chwaraeon y cyfan.
Wrth gyfuno sgandalau, newid cyfeiriad, anaf hir-dymor i Bernal, a thwf timau a chenhedloedd eraill, mae goruchafiaeth Ineos Grenadiers a Phrydain wedi pylu, a’r rhod wedi troi at y to ifanc, at Slofenia, ac at dîm Jumbo ar ei wahanol ffurfiau.
Y cwestiwn mawr sy’n aros felly yw a fydd tîm Prydain yn gallu parhau â’r llwyddiant Olympaidd ym Mharis, ac osgoi efelychu trywydd llai llewyrchus y rhai ar yr heolydd.
O Aberaeron i’r brig
Ers 2023, mae Josh Tarling o Ffos y Ffin ger Aberaeron wedi bod yn rhan o dîm Ineos Grenadiers. Er ond newydd droi’n 20 oed ym mis Chwefror, mae wedi dod yn un o aelodau mwyaf allweddol y garfan ac un o seiclwyr mwyaf talentog y peloton fwy neu lai dros nos.
Er i rai awgrymu y gallai Josh dargedu rasys undydd Gwlad Belg neu hyd yn oed y Tour de France ryw ddydd, am y tro, y ras yn erbyn y cloc yw ei arbenigedd.
I nifer, dyma’r ffurf fwyaf pur o rasio beic. Pob unigolyn, yn ei dro, yn ymgymryd â’r un cwrs, a’r sawl sydd â’r amser gorau dros y cwrs hwnnw sy’n fuddugol.
Mae’n fantais, fel rheol, bod â ffrâm gorfforol fwy ar gyfer y ras yn erbyn y cloc. Mae Tarling yn dipyn o gawr yn mesur chwe throedfedd a phedair modfedd, ac mae’n pwyso rhyw 20kg yn drymach, mae’n debyg, na dringwyr gorau’r Tour de France.
Yn 2023 a 2024, enillodd y Cymro Bencampwriaeth Prydain yn y ras yn erbyn y cloc (REC). Pan ddaeth i’r brig yn y ras honno gwta fis yn ôl, roedd bron i filltir yr awr yn gyflymach na’r gŵr yn yr ail safle. Mae sawl un yn nodi’r tebygrwydd rhwng y cwrs hwnnw a’r un y bydd yn ymgymryd ag o ym Mharis.
Yn ôl un o hyfforddwyr Ineos, y cyn-reidiwr Ian Stannard, doedd Tarling ddim hyd yn oed ar ei orau bryd hynny. Torrodd asgwrn yn ei ben-glin yn Paris-Roubaix ym mis Ebrill, esgorodd ar gyfnod oddi ar y beic. Mae hefyd wedi bod yn addasu manylion ei safle ar y beic REC er mwyn sicrhau erodynamedd, sydd ebe yntau’n broses sy’n cymryd amser.
Y Sadwrn hwn, 27 Gorffennaf, yw’r dyddiad â chylch o’i gwmpas yng nghalendr Josh Tarling ers misoedd lawer; pob llwybr yn arwain y ffordd i Baris. Mae sawl un yn credu fod gobaith gwirioneddol ganddo o gipio’r fedal aur.
Tarling yw’r pencampwr Ewropeaidd presennol yn y maes. Enillodd o’r ras honno mewn modd ysgubol; ddeugain eiliad a mwy’n gyflymach dros 28.7km na rhai o oreuon y gamp, Stefan Bissegger a Wout van Aert.
Daeth yn drydydd ym Mhencampwriaethau’r Byd. Remco Evenepoel o Wlad Belg, un arall o sêr ifanc mawr y gamp, enillodd bryd hynny, gan reidio’r cwrs 48km 48 eiliad yn gyflymach na’r Cymro. Yr Eidalwr Filippo Ganna, sydd hefyd yn rhan o dîm Ineos Grenadiers, ddaeth yn ail, ddeuddeg eiliad y tu ôl i Evenepoel.
Y peth pwysig cyntaf i’w gofio yw mai ym mis Awst y llynedd y cynhaliwyd y pencampwriaethau hyn. Mae cryn dipyn yn gallu newid mewn cwta flwyddyn.
Bu i Evenepoel anafu ei ysgwydd a phont ei ysgwydd yng Ngwlad y Basg ym mis Ebrill, ond ymddengys ei fod yn holliach o hynny ac yntau’n agos iawn at frig dosbarthiad cyffredinol y Tour de France wrth i Golwg fynd i’r Wasg.
Y Tour de France yw targed mawr Evenepoel eleni, nid y Gemau Olympaidd, tra bo Tarling yn gweithio’n ddiwyd ar y manylion i gael y gorau ohono ym Mharis.
Serch hynny, mae gallu Evenepoel yn y ras yn erbyn y cloc (REC) yn dal i fod yn amlwg. Enillodd gymal 7 (REC) yn y Tour de France, a hynny ar ôl curo Tarling o 17 eiliad yn y REC yn y Critérium du Dauphiné ddechrau Mehefin.
O ran Ganna, dydy o heb fod mor oruchafol yn y REC ag y bu yn 2020 a 2021, er iddo gael un cyntaf ac un ail yn y rasys hynny yn y Giro yn gynharach eleni. Yn ogystal, mae sïon o dîm Ineos Grenadiers fod Tarling mewn gwell cyflwr na’r Eidalwr ar hyn o bryd.
Da chi, cadwch lygad ar y ras yn erbyn y cloc y Sadwrn hwn.
O Gaerfyrddin i’r vélodrome
Awn ni’n ein holau i’r vélodrome i gloi, ac at un sy’n gobeithio dod adref â thair medal rownd ei gwddf, ffenomenon ddiweddaraf seiclo trac ym Mhrydain, Emma Finucane.
Pan sgwennais i Golwg am ei gobeithion ddechrau’r flwyddyn, roedd yna’n dal i fod marc cwestiwn p’un ai y byddai’n cystadlu yn y ras wib unigol, a’r gystadleuaeth yn chwyrn am le yng ngharfan Prydain.
Hynny er iddi, tra’n 20 a 21 oed, ennill y categorïau elît yng Nghwpan y Byd ac ym Mhencampwriaethau’r Byd Glasgow yn 2023. Ddechrau’r flwyddyn wedyn, aeth ymlaen i ennill Pencampwriaethau Ewrop.
Mae’n argoeli’n dda iddi nid yn unig yn y ras wib unigol, ei harbenigedd, ond hefyd yn y keirin a’r ras wib i dimau. Maen nhw i gyd yn gofyn am gyflymder a phwêr aruthrol, ac mae’n amlwg fod gan Finucane ddigonedd o hynny.
Enillodd hi’r keirin ac roedd yn rhan o’r tîm gwib buddugol, ynghyd â Lowri Thomas o Lanelwedd a Katy Marchant, ym Mhencampwriaethau Prydain 2023 hefyd. Sophie Capewell sydd wedi’i dewis i gwblhau’r triawd gyda Finucane a Marchant ar gyfer y Gemau Olympaidd, a Lowri Thomas yn teithio fel eilydd. Dyma’r garfan ddaeth i’r brig yng Nghwpan y Cenhedloedd yn gynharach eleni; y tîm gwib benywaidd cyntaf o Brydain i ennill medal mewn unrhyw gystadleuaeth ryngwladol ers 2012.
Bydd tîm Prydain heb yr un o’r ddau Kenny – Jason a Laura, Olympiaid mwyaf llwyddiannus Prydain erioed – am y tro cyntaf ers 2004. Mae gofyn, felly, i do newydd gamu i’r bwlch, ac mae Emma Finucane yn ei chanol hi. Mae’r rasio trac i gyd yn digwydd wythnos i ddydd Llun nesaf, ar 5 Awst.
Argoeli’n dda i’r Cymry
Er mai Tarling a Finucane sy’n hawlio’r rhan fwyaf o’r sylw Cymreig, a hwythau ar drywydd medalau yn eu hymddangosiad cyntaf yn y Gemau Olympaidd, mae sawl seiclwr arall â’u bryd ar lwyddiant ym Mharis.
Mae Anna Morris o Gaerdydd yn rhan o’r tîm fydd yn cystadlu yn y ras ffordd ar 4 Awst ac ar y trac, a hithau wedi rhoi ei gyrfa mewn meddygaeth i’r neilltu i ganolbwyntio ar y Gemau. Ynghyd â hi yn y tîm trac ar gyfer y rasys pwyntiau ac ymlid, mae’r Cymry Elinor Barker, enillodd aur yn Rio, a Jess Roberts o Gaerfyrddin.
O ran y dynion, bydd Stevie Williams yn gobeithio cario coesau da o’r Tour de France i’r ras ffordd ar 3 Awst, tra bo Ethan Vernon yn gobeithio am lwyddiant ar y trac.
Ar y ffordd ac yn y vélodrome, mae’n argoeli’n dda i’r Cymry yng nghanol gobeithion tîm Prydain o barhau â’u goruchafiaeth yn y byd seiclo Olympaidd.