Profiad anghyfforddus oedd gwylio Vaughan Gething yn gwneud ei ddatganiad nawddoglyd a hunan-gyfiawn wrth gyhoeddi ei fod am adael ei swydd fel Prif Weinidog Cymru.

Er ei wendidau; er ei benderfyniadau gwael, er ei ddiffygion o ran synnwyr cyffredin gwleidyddol, er iddo arwain ei blaid a’n gwlad trwy fisoedd o gythrwfl tra’n niweidio hygrededd ein Senedd…

Er hyn oll, ni welsom unrhyw arwydd ei fod yn difaru – ac, wrth gwrs, ni ddaeth unrhyw air o ymddiheuriad ganddo.