Roedd ’na seremoni fach i ddathlu’r plant oedd yn gadael. Rhieni blwyddyn chwech, ambell fam-gu a thad-cu, y neuadd yn llawn oedolion bach yn dal eu ffonau i fyny er mwyn dal wynebau’r plant wrth iddyn nhw raddio o’r ysgol. Chwarae teg i’r staff. Roedden nhw wedi cael gafael ar gap graddio o rywle, ac wedi argraffu tystysgrifau i bob plentyn i’w cyflwyno mewn rholyn swyddogol yr olwg gan y prifathro. Pan ddaeth tro Mykola i gael ei dystysgrif, cydiodd yn llaw Mr Pritchard i’w ysgwyd a throdd i e