Pryd oedd amser maith yn ôl?

Rwyf wedi bod yn myfyrio ar y cwestiwn ers imi ymweld ȃ Barclodiad y Gawres.

Mae’r safle Neolithig ar arfordir gorllewinol Ynys Môn wedi bod ar fy rhestr bwced ers imi ddysgu am y lle yn llyfr rhagorol John Davies a Marian Delyth, Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw.