Mae’r actor 30 oed o Aberdâr i’w gweld yn nrama gomedi newydd S4C, ‘RSVP’, am ferch sengl sy’n despret i drefnu dêt ar gyfer priodas ei ffrind.

Ar hyn o bryd yn byw yn Lerpwl, mae Emmy newydd fod yn rhan o ddrama ar Radio Cymru o’r enw ‘O Farw’n Fyw’.

A phan nad yn actio, mae’n mwynhau canu, rhedeg a gwneud ioga…

Beth yn gwmws yw eich rhan yn y ddrama newydd, RSVP?

Dw i’n chwarae rhan ‘Beth’ sef un o ffrindiau gorau ‘Cadi’, y prif gymeriad sy’n cael ei chwarae gan Caryl Burke, [y gomediwraig] sydd wedi sgrifennu’r ddrama. Mae yna griw o dri ffrind a ‘Beth’ yw’r ffrind fwyaf call, I suppose. Mae yna insinuation ynddo ei bod hi wedi cael bywyd gwyllt yn y gorffennol pan oedd hi ychydig yn iau, ond nawr mae ‘Beth’ yn fam eithaf newydd – mae babi gyda hi a’i gwraig, Llinos. Felly mae hi’n fam newydd ac yn eithaf stressed.

Oes siawns y gwelwn ni fwy o gymeriadau RSVP yn y dyfodol?

Blas yw e o’r sitcom llawn byddai’n gallu cael ei greu petai’r cwmni’n pigo fe lan. Os yw’r ffigurau gwylio yn dda, gobeithio gall o gael ei droi’n gyfres go-iawn achos fi’n credu bod y sgrifennu yn rili da. Fi’n reit hoff o gael rhywun fel Caryl sy’n gwneud stand-yp, yn ogleddol, yn plus size, yn adlewyrchu eu profiadau bywyd nhw ar y teledu. Roedd gan Caryl gymaint o ofn ei wneud o hefyd achos dydy hi ddim o reidrwydd yn actor na sgrifennwr, er mae comediwyr yn sgrifennu eu setiau bob nos. Mewn gwirionedd, mae hi’n un o’r bobol fwyaf qualified i sgrifennu drama ddoniol. Mae hi’n berson rili sbesial ac mae ei llais hi’n rili pwysig felly gobeithio bydd e’n gyfres llawn rhyw ddiwrnod. Fi’n teimlo’n lwcus iawn fy mod i wedi cael y cyfle i fod ynddo fe.

Beth arall fuoch chi’n gweithio arno eleni?

Fi newydd fod yn chwarae’r brif ran mewn drama radio ar gyfer Radio Cymru sef O Farw’n Fyw. Dyma’r ddrama radio gyntaf i fi ei wneud felly roedd hynny’n gyffrous iawn, a dw i’n hoff iawn o Alun Saunders [awdur y ddrama radio] hefyd. Fi wedi gwneud lot o waith voiceover er mwyn talu’r biliau dros y blynyddoedd, felly dydw i ddim yn ddieithryn i waith stiwdio – ond mae gwneud drama radio yn brofiad hollol wahanol. Mae e’n cyfuno fy sgiliau mewn voiceover a fy ngwaith actio felly ro’n i wrth fy modd yn gweithio ar O Farw’n Fyw gyda Miriam Isaac a Suzanne Packer.

Sut beth yw cael cynrychioli’r gymdeithas LDHTC+ trwy eich cymeriadau?

Mae e mor bwysig. Dim ond yn ddiweddar dw i wedi cael y fraint o chwarae pobol sydd fel fi o ran rhywioldeb, sydd bach yn confusing a bach yn rhyfedd. Dw i’n sort of meddwl: ‘Waw, about time!’ achos dw i wedi bod yn berson LDHTC+ loud and proud ers o’n i’n tua 12 neu 13 oed. Dim bod ots gennai chwarae pobol straight, ond ar ôl chwe blynedd o chwarae pobol straight ar ôl pobol straight a phobol straight, roedd e’n teimlo’n rhyfedd. Fi’n meddwl bod e jest wedi cymryd sbel i’r diwydiant gadw lan gyda syniadau mwy progressive a modern. Ond dw i’n gweld newid mawr yn y diwydiant ac mae’n rhaid i fi gofio mai fi nawr yw un o’r bobol fwyaf breintiedig yn y gymdeithas yna. Dyw e ddim yn synnu fi rhagor taw fi fel person gwyn, abl, cis-appearing sydd nawr gyda lot o fraint o fewn y diwydiant ac yn cael lot o lwc a gwaith, o gymharu efo pobol draws falle neu bobol o liw sy’n rhan o’r gymdeithas LDHTC+.

Ers pryd ydach chi’n canu yn gyhoeddus?

Dw i wastad wedi canu. Es i ysgol Gymraeg a ro’n i’n cystadlu yn yr eisteddfodau ac yn rhan o’r côr. Es i ymlaen i drio cael lle mewn ysgolion drama a ges i gynnig lle ar gwrs Actor Musicianship yng ngholeg Rose Bruford yn lle [astudio actio yn unig] achos fy mod i’n chwarae’r piano a thelyn ac yn gallu canu. Felly mae fy mywyd a hyfforddiant wastad wedi bod ynghlwm gyda chanu, fel lot o bobol Cymraeg.

Fi rili yn joio canu ac yn ddiweddar iawn dw i wedi mynd yn ôl i gael gwersi canu ffurfiol yn Llundain.

Beth yw eich atgof cynta’?

Fi’n credu ro’n i’n tua dwy oed ac yn trio gwneud i fy mam-gu a thad-cu chwerthin ar stepen yn yr ardd. Roedd gyda fi fel gitâr makeshift sef hen focs tissues gyda bandiau elastig rownd fe.

Ges i’r fagwraeth byddech chi’n disgwyl yn y Cymoedd yn y 1990au. Fe wnaeth fy rhieni ysgaru pan o’n i’n eithaf ifanc ac mae gen i deulu eithaf mawr – roedd pawb yn byw chwe drws lan neu lawr. Fi’n credu ges i fagwraeth rili hapus ond rili typical o’r lle ac amser… Magwraeth dosbarth gweithiol y Cymoedd.

Beth yw eich ofn mwya’?

Bod cyfalafiaeth ddim yn mynd i orffen mewn digon o amser i achub y ddynol ryw.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Fi wedi cyrraedd oed nawr ble mae’r gwaith theatr yn bendant yn cymryd toll bach ar y corff. Fel arall, fi’n rhedeg a gwneud ioga. Fi’n hoff o nofio hefyd.

Beth sy’n eich gwylltio?

Un peth mawr yw sut mae’r system dosbarth ym Mhrydain yn ein cadw ni yn ein lle. Dw i’n casáu hynny. Fi’n credu fy mod i yn un o’r rhai olaf am y tro sy’n dod o gefndir dosbarth gweithiol ac wedi cael unrhyw siawns ar wella eu bywyd a chael gweithio yn y celfyddydau. Dw i’n casáu nad yw plant heddiw yn cael yr un cyfleoedd a bod dim social mobility. Byswn i ddim yma’n ateb y cwestiynau yma os fyswn i heb gael mynediad i’r celfyddydau a gallu dod yn ddosbarth canol.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Byswn i’n gwahodd Freddie Mercury os oes modd dod â phobol yn ôl. Dim fy mod i erioed wedi’i gyfarfod ond fi’n teimlo y bydden ni’n cael ymlaen yn dda. Fi’n hoffi ei fod e’n cymryd ei grefft o ddifrif, ond dim ei hun.

I fwyta, byswn i’n cael buffet Indiaidd anferth.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd? 

Fy ngwraig, Zoe. Wnaethon ni gwrdd rhyw saith mlynedd yn ôl tra’n gweithio ar brosiect yn Theatr Clwyd. Roedden ni’n nabod ein gilydd ychydig bach cyn hynny achos roedden ni yn yr un coleg yn Llundain, ond ei bod hi flwyddyn yn iau na fi. Still going strong.

Hoff wisg ffansi? 

Gwisgais i lan fel daffodil yn y coleg unwaith ac roedd e’n real hit.

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Ro’n i ym mlwyddyn wyth a ro’n i’n chwarae’r delyn yn yr ysgol ac roedd rhaid i ni fynd i’r gerddorfa sir i chwarae, felly ro’n i mewn ysgol wahanol am y diwrnod. Ges i fy mislif tra’n chwarae’r delyn felly ar ôl sefyll lan am egwyl, roedd ffrind fi fel: ‘O Mai God!’ a ro’n i’n gwisgo trowsus linen gwyn ac yn mynd trwy oedran rili horrendous beth bynnag. Fe wnaeth fy ffrind roi ei chardigan i fi wisgo rownd fy nghanol ond fi’n cofio cerdded gyda fy mhen ôl ar hyd y wal yr holl ffordd o’r neuadd i’r tŷ bach. Roedd e mor embarrassing.

Gwyliau gorau?

Y llynedd es i a Zoe i Ffrainc i wneud bach o Tour de Ffrainc ein hunain fel mis mêl blwyddyn ar ôl i ni briodi. Aethon ni o Lundain i Baris, i Lyon, wedyn Trévans a Marseille. Roedd e’n dair wythnos anhygoel. Mae gyda fi gariad go-iawn at yr iaith Ffrangeg nawr a fi rili moyn dysgu.

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

ADHD.

Hoff ddiod feddwol?

Wisgi Jura.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Wnes i fwynhau All About Love: New Visions gan Bell Hooks. Mae e fel maniffesto ugain mlwydd oed erbyn hyn am sut gall cymdeithas fod fwy am gariad a llai am gelwyddau a chasineb, ond mae e dal yr yn mor berthnasol heddiw.

Hoff air?

Totalitariaeth… I’w ddweud, dim achos o be mae’n feddwl.

Hoff albwm? 

Ella & Louis gan Ella Fitzgerald a Louis Armstrong. Fi’n ffan mawr o jazz ac wedi canu jazz ers fi’n ifanc, ac mae’r ddau ohonyn nhw’n gewri.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Fi byth wedi bod i Maes B!