Yn ystod wythnos seremoni Llyfr y Flwyddyn fe ddarllenais un o gyn-enillwyr y brif wobr; clasur Angharad Price, O! Tyn y Gorchudd, a enillodd y gystadleuaeth yn 2003.

Stori Rebecca Jones (hen fodryb yr awdur) o Dynybraich, Mallwyd, sydd yma ar ffurf hunangofiant. Cyfrol deimladwy a phwerus am deulu gwledig wrth iddynt ymateb ac addasu gydag urddas a gwydnwch i golled, anabledd a newidiadau cymdeithasol a thechnolegol yn eu bro yn ystod yr ugeinfed ganrif.