Mae heddiw yn ddiwrnod mawr wrth gwrs ac yn y rhifyn hwn fe gewch wahanol safbwyntiau ar yr etholiad cyffredinol gan resiad o’n colofnwyr – y dihafal Dylan Iorwerth, y fythol gydwybodol Manon Steffan Ros, Huw Onllwyn y gogleisiwr o Gaerdydd, a Jason Morgan y cenedlaetholwr tanbaid o Rachub.

Fe fydd ton ar ôl ton o bolitics ar deledu a radio dros y dyddiau nesaf, ac mae peryg i ambell stori arall fynd heb fawr o sylw.