Dim ond twpsyn llwyr fyddai’n proffwydo canlyniadau etholiad ar y diwrnod, gan wybod y bydd y canlyniadau wedi dod cyn i lawer o bobol ddarllen y darogan. Felly, i ffwrdd â ni…

  • Y rhan hawdd: Llafur fydd yn ennill. O lot. Mi fydd faint yn dibynnu ar y balans rhwng Reform UK, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Problem y Blaid Lafur fydd canran y bleidlais – llai efallai na’r hyn yr oedd yn ei gael dan Jeremy Corbyn. Mi fydd gweithredu yn anodd, mi fydd gweithredu radical yn fwy anodd fyth.
  • Yr ail ran hawdd: Mi fydd y Ceidwadwyr yn cael eu chwalu. Dim sedd yng Nghymru, un neu ddwy (efallai) yn yr Alban. Ac yn ei hardaloedd traddodiadol, mi fydd y cyfan yn dibynnu ar benderfyniad cyn-gefnogwyr anhapus… i aros gartre’, pleidleisio i Reform neu ddod yn ôl i’r gorlan ar y funud ola’. Ychydig o’r cyfan, gan olygu rhwng 100 a 150 o seddi.
  • Plaid Cymru. Tair sedd, efallai bedair. Yn Ynys Môn a Chaerfyrddin, mi allai lefel y pleidleisio fod yn allweddol. Ond mae hi a phawb ond Llafur yn debyg o fod y tu ôl i Reform UK yn llawer o’r Cymoedd. Efo Llafur eisoes yn dangos sut y bydd hi, trwy droi cefn ar eu cais am biliynau o arian HS2, mi fydd ganddi darged llawer mwy i’w daro yn 2026.
  • Mi fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn talu’r pwyth i’r Ceidwadwyr mewn rhannau o Loegr am eu stitshio’n llwyr yn 2015. Ar draws gwledydd Prydain, fawr o gynnydd yn eu pleidlais, ond tipyn rhagor o seddi. Un yng Nghymru? Os bydd yna bleidleisio tactegol ym Mrycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe.
  • Reform UK. Mi fydd eu pleidlais yn dangos nad Ewrop oedd achos Brexit ond anfodlonrwydd efo’r byd gwleidyddol a’r teimlad annelwig fod ardaloedd a mathau o bobol wedi eu gadael ar ôl. Mae’n beryglus ond yn dangos bod cyfle i bleidiau eraill sy’n dangos gweledigaeth i arwain pobol i gyfeiriad arall.

Un peth sy’n sicr, mi fydd y canlyniadau’n fwy cymhleth na’r darogan arwynebol a’r oblygiadau’n ddwys. Mae’r hen deyrngarwch i bleidiau bron â mynd a hynny’n golygu pendilio eithafol. A chadarnhad fod pobol yn gweld y ddwy blaid fawr yn agos at ei gilydd.

Os bydd yna ddadrithio eto a Llafur (trwy amgylchiadau neu ei llwfrdra ei hun) yn methu â chreu newid, mi allai’r canlyniadau fod yn ddifäol. Hyd yn oed â chymryd y polau mwya’ ffafriol iddi, fydd gan Lafur ddim yn agos at fwyafrif y pleidleisiau na chefnogaeth y rhai sy’n ymatal.

Does dim ond rhaid edrych tros Fôr Iwerydd i weld be allai ddigwydd…