Ar ôl chwe wythnos o glebran ar ein teledu, y cyfryngau cymdeithasol, ac ar stepen y drws, heddiw fe fydd etholwyr ar draws y wlad yn mynd i’r bythau pleidleisio i roi croes wrth ymyl enw’r ymgeisydd maen nhw eisiau ei anfon i San Steffan i’w cynrychioli.
Un o seddi mwyaf diddorol Cymru yw Ynys Môn, lle mae disgwyl ras agos iawn rhwng Plaid Cymru, Llafur a’r Ceidwadwyr.
Dyma’r unig sedd yng Nghymru sydd yn parhau i gadw ei ffiniau gwreiddiol.
Mae’r ffaith bod yr etholaeth yn gartref i 50,000 o bobl yn lle’r 73,500 sy’n cael ei argymell fel y nifer delfrydol o fewn y ffiniau newydd, yn golygu bod ymgeiswyr yn fwy tebygol o allu cyrraedd mwy o bobl ar y stepen ddrws.
Felly ai materion lleol fydd yn trympio tueddiadau Prydeinig ym Môn?
Adeg yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2019, fe gafodd Virginia Crosbie ei hethol gyda mwyafrif o tua 2,000 o bleidleisiau. Y Tori cyntaf i ennill ar yr ynys ers 1983 -ond mae’r arolygon barn yn awgrymu mai Llafur neu Blaid Cymru sydd fwyaf tebygol o gipio’r sedd y tro hwn.
Mae wyth ymgeisydd yn y ras – Virginia Crosbie (Ceidwadwyr), Leena Sarah Farhat (Democratiaid Rhyddfrydol), Emmett Jenner (Reform), Llinos Medi (Plaid Cymru), Martin Schwallar (Gwyrddion), Sir Grumpus L Shorticus (Monster Raving Loony Party), Ieuan Môn Williams (Llafur), a Sam Andrew Wood (Y Blaid Ryddfrydol).
Ceidwadwyr
Yn brwydro i barhau yn ei swydd yn Aelod Seneddol Môn mae Virginia Crosbie, 57, sydd o Essex yn wreiddiol.
Nid oedd ar gael i wneud cyfweliad gan ei bod yn “rhy brysur”, ond fe gafwyd datganiad ganddi.
“Rwyf wedi derbyn croeso cynnes am yr hyn rwyf wedi’i gyflawni ar draws y pedair blynedd ddiwethaf,” meddai yn ei datganiad i Golwg.
“Mae hyn yn sgil ymrwymiad y llywodraeth i [ail atomfa niwclear ar safle] Wylfa, y porthladd rhydd [yng Nghaergybi] a hefyd pethau bach fel fy ymgyrch iechyd meddwl, ac Arwyr Cudd sydd yn cydnabod pobl leol sydd yn rhoi gymaint i’w cymunedau.
“Felly, o gymharu efo’r ymgyrch yn 2019, mae o wedi bod yn fwy cadarnhaol i fi.
“Rwyf wedi bod yn falch i drafod fy record o weithredu ar fy mlaenoriaeth sef swyddi a buddsoddiad.”
Yn ôl Virginia Crosbie, mae Llywodraeth Prydain wedi buddsoddi dros £400m ar yr ynys ers iddi gael ei hethol yn 2019.
“Mae’r ymrwymiad i Wylfa, y porthladd rhydd, arian codi’r gwastad a’r £175 miliwn o fuddsoddiad i Lu Awyr Y Fali wedi mynd ryw ffordd i wrthdroi’r degawdau o esgeuluso a fu ar Ynys Môn dan law Plaid Cymru a Llafur.”
Ac mae yn addo pwyso am fwy fyth o wario, o gael ei hethol am ail dymor.
“Dim ond maniffesto Ceidwadol sydd yn ymrwymo i’r Wylfa, trydedd bont Menai a £1 biliwn o fuddsoddiad i mewn i drydanu’r rheilffordd yng ngogledd Cymru. Os na chaf fy ethol, ni fydd y pethau hyn yn digwydd.
“Mi’r oeddwn i’n pwyso ar y llywodraeth ddiwethaf i weithredu ac mi fydda i’n pwyso ar yr un nesaf, beth bynnag fydd ei liw. Dwi ond eisiau beth sydd yn dda i Ynys Môn.”
Bu’r pyndits yn gytûn fod Rishi Sunak wedi cynnal ymgyrch etholiadol gyda’r gwaethaf, ac mae sawl Ceidwadwr wedi troi arno – ond mae Virginia Crosbie yn driw i’r dyn hyd y diwedd.
“Mae o, ac mi fydd o yn Brif Weinidog gwell nag Syr Keir Starmer,” meddai.
“Mae ei gynllun wedi gweithio; mae chwyddiant i lawr i’r targed o 2%, mae cyfraddau llog yn debygol o ostwng yn ystod yr haf, mae’r nifer mewn gwaith yn uchel, ac mae cyflogau a’r economi yn tyfu.”
Democratiaid Rhyddfrydol
Leena Sarah Farhart, 26, yw ymgeisydd y Lib Dems. Mae hi yn dysgu siarad Cymraeg ac yn byw yn Llanfairfechan yn Sir Conwy, ond yn gweithio fel Technolegydd Data ar yr ynys. Mae hi hefyd yn astudio PhD ym Mhrifysgol Bangor, ac yn dweud bod yna ddiddordeb mawr yn yr etholiad ym Môn.
“Be dw i wedi ffeindio ar yr ynys ydy bod pobl yn barod i siarad a bod pob dim yn bosib,” meddai.
“Rydym yn cael nifer mawr o hystings… a heblaw am un, mae pob hystings wedi bod yn llawn. Ac mae pobl eisiau clywed be’ sydd gan yr ymgeiswyr i ddweud.”
A’r hyn sydd bwysicaf i bobol yr ynys, a hynny “100%” meddai, yw swyddi. Nid yw hyn yn syndod o gofio bod 700 wedi colli eu gwaith pan gaeodd ffatri prosesu cywion ieir 2 Sisters yn Llangefni’r llynedd.
“Mae pobl yn bryderus am beth fydd yn digwydd efo Wylfa Newydd, ac mae’r ffaith bod ffatri 2 Sisters wedi cau wedi cael effaith fawr ar bobl hefyd,” meddai Leena Farhart.
Ac mae’r Lib Dem yn cydnabod mai “ras tri cheffyl” yw hi ar yr ynys.
“Ond wedi dweud hynny, dw i eisio rhoi’r cyfle i bobl bleidleisio dros lais rhyddfrydol,” meddai.
“Be dwi yn weld ydi bod pobl yn siarad am y Democratiaid Rhyddfrydol, yn enwedig am ei chynlluniau o gwmpas iechyd cymdeithasol.
“Mae pobl yn cydnabod Ed Davey a’r gwaith mae o wedi’i wneud o gwmpas iechyd cymdeithasol.
“Eto, mae iechyd yn un anodd oherwydd mae lot ohono fo wedi’i ddatganoli, ond yng ngogledd Cymru mae lot o bobl yn mynd dros y ffin i gael triniaeth, ac mae hyn yn cael effaith ar y fformiwla ariannu.”
Reform
Yn sefyll ar ran plaid Reform mae Emmett Janner, 42, sydd yn gweithio i fusnes ar yr ynys.
Roedd Reform yn y newyddion yr wythnos diwethaf ar ôl i ganfasiwr gael ei recordio’n gudd gan Channel 4 News yn defnyddio term hiliol i ddisgrifio Rishi Sunak ac yn awgrymu bod rhaid saethu mewnfudwyr sy’n ceisio dod i Brydain ar gychod.
Dywed Emmett Janner yn bendant “nid yw’r canfasiwr yn aelod o’r blaid”, cyn troi at yr etholaeth dan sylw.
“Nid yw pryderon trigolion Ynys Môn yn rhy wahanol i weddill y wlad, a’r prif faterion wrth gwrs yw’r economi, mewnfudo ac iechyd,” meddai.
Mi fyddai Reform yn gwario mwy ar y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, ac mi fyddai hynny yn ei dro – yn ôl Emmett Janner – yn rhoi pwysau ar “aelodau Senedd Cymru” i wario mwy ar iechyd hefyd.
Plaid Cymru
Môn yw un o etholaethau targed amlycaf y Blaid a Llinos Medi sydd yn ceisio cipio’r sedd iddi am y tro cyntaf mewn etholiad cyffredinol ers i Ieuan Wyn Jones ennill yno yn 1997.
Yn fam sengl i ddau o blant, Llinos Medi yw Arweinydd Cyngor Môn ers 2017. Bu yn gweithio yn y maes gofal cyn dod yn gynghorydd sir yn 2013.
Dywed bod yna deimlad fod dirywiad ar droed ym Môn.
“Mae o’n deimlad sydd yn dod allan o fewn pob cymuned ar yr ynys,” meddai Llinos Medi.
“Y teimlad yma ydy: ‘Rydan ni’n cael ein gadael ar ôl’… a bod yna ddim llais sy’n gallu cynrychioli ardal fel Ynys Môn a deall yr heriau.”
Ac nid yw yn deimlad sy’n unigryw i gymunedau iaith Gymraeg yr ynys, meddai.
“Yn Amlwch, mae lot o’r gymuned yn ddi-Gymraeg, ac mae’r gymuned yn teimlo’n debyg i weddill yr ynys, bod yna golli ffydd mewn gwleidyddion.”
Os yn llwyddiannus yn yr etholiad, prif amcan Llinos Medi fydd “tynnu’r surni” o gymunedau’r ynys a pheidio dod â “chasineb” i mewn i drafodaethau.
“Mae’r Aelod Seneddol presennol wedi creu rhwyg o fewn ein cymunedau, a dwi’n anfodlon iawn bod ein cymunedau wedi newid gymaint,” meddai.
“Dwi hefyd eisiau gweld be ydi’r cyfeiriad efo’r porthladd rhydd a siarad efo’r Trysorlys i roi’r hyder iddynt allu symud ar yr agenda yna.”
Ar fater ail atomfa ar safle’r Wylfa, dywed bod angen trafodaeth “onest”, gan fod “celwydd wedi bod yn cael ei roi allan yn gyhoeddus, a bod pobl yn disgwyl yr aur yma i gyd, pan ella fydd yna ddim byd o gwbl”.
Ac er ei bod yn credu bod yr ymgeisydd Llafur, Ieuan Môn Williams, yn berson “dymunol”, mae Llinos Medi yn cwestiynu ei “allu” i gynrychioli Ynys Môn.
“I ddweud y gwir mae o wedi bod yn gyrru fi fwy fyth i fod yn ennill Ynys Môn, oherwydd dwi’n bryderus ei fod yn mynd i ddilyn ei blaid a ddim [dymuniadau pobol] yr ynys,” meddai.
“Dw i ddim yn siŵr chwaith os, ar adegau, ydy o’n cymryd y cyfrifoldeb o ddifri… dw i wedi bod yn siomedig iawn lle mewn ambell i hysting, lle mae o wedi cyfaddef ei fod o ddim yn gwybod llawer am y maes [dan sylw], lle baswn i wedi gwneud lot o waith cartref cyn cyrraedd y pwynt yna.
“Felly dw i’n bryderus bod y don Llafur yma yn rhoi ryw fath o hyder, a dydi hyder ddim yn beth iach.”
Yn ôl Llinos Medi mae hi’n “bryderus” y bydd Llafur yn ennill mwyafrif mawr oherwydd, meddai, bydd lleisiau cynrychiolwyr o fewn y blaid sydd eisiau siarad dros eu cymunedau yn cael eu colli, sef rhywbeth mae’r Ceidwadwyr hefyd wedi bod yn pwysleisio.
Llafur
Ieuan Môn Williams, 32, yw ymgeisydd y Blaid Lafur ac mae yn dysgu siarad Cymraeg. Fe fu yn gweithio yn swyddfa seneddol Albert Owen, cyn-AS Môn, ac mae ganddo gysylltiadau teuluol â’r ynys.
Er i Golwg ofyn am gyfweliad gyda’r ymgeisydd Llafur, ac yna am atebion i gwestiynau ysgrifenedig ac am ymateb i’r cyhuddiad gan Llinos Medi am fethu cymryd hystings o ddifrif, nid oedd Ieuan Môn Williams am wneud unrhyw sylw.
Ond nôl ym mis Mai fe gafodd Golwg gyfweliad gyda’r Llafurwr, a dyma flas o’i sylwadau bryd hynny. Yma mae yn addo y bydd y berthynas rhwng Llywodraethau Cymru a Phrydain yn gwella dan law Llafur.
“Beth rydym yn ei wybod yw y bydd Keir [Starmer] yn Brif Weinidog sydd yn mynd i godi’r ffôn a siarad gyda Phrif Weinidog Cymru, a bydd hynny yn ei hun yn chwyldroadol o gymharu efo beth sydd gennym ni ar hyn o bryd.”
Roedd Ieuan Môn Williams hefyd yn awyddus i bwysleisio’r angen i fod yn onest gyda’r cyhoedd ac egluro bod “tua degawd o adnewyddu cenedlaethol” yn wynebu gwledydd Prydain, er mwyn ennill ffydd y bobl.
“Mae yna lot o ddifaterwch yn y wlad yma a drwgdybiaeth am ein gwleidyddion. Mae yn rhaid i ni wneud pob dim i adfer eu ffydd yng ngallu gwleidyddiaeth i wneud gwahaniaeth.”
Hefyd mae’r Llafurwr yn gefnogwr brwd o ynni niwclear.
“Does yna ddim byd sy’n gallu dod â’r lefelau o drawsnewid economaidd fel y bysa gorsaf bŵer niwclear newydd. Does yna ddim byd yn dod yn agos.”
Er i Golwg ofyn am gyfweliadau gyda Martin Schwallar o’r Blaid Werdd, a Sam Andrew Wood o’r Blaid Ryddfrydol, nid chafwyd ateb.
Darogan ras agos
Ar bodlediad Gwleidydda Radio Cymru mae arbenigwr gwleidyddol a hogyn o Fôn wedi dweud wrth Vaughan Roderick ei fod yn disgwyl ras agos ar y Fam Ynys.
“O bosib mai Ynys Môn ydi’r unig etholaeth yn y gogledd lle mae yna gwestiwn go-iawn am bwy sydd yn mynd i fod yn fuddugol,” meddai’r Athro Richard Wyn Jones.
“Fy theori i am yr etholiad yma ydi mai pleidleisio negyddol sydd yn gyrru pob dim. Hynny yw, pleidleisio yn erbyn rhywbeth yn hytrach nag o blaid, ac yn erbyn y Ceidwadwyr. Ac yn Ynys Môn mae yna ddwy blaid yn cystadlu i fod y blaid wrth-Geidwadol, sef y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.
“Mi fydda i Virginia Crosbie fedru dal ei gafael [yn y sedd] yn ganlyniad gwbl neilltuol, a chwbl ryfeddol… dw i ddim yn dweud ei fod o’n amhosibl.
“Ei gobaith mawr hi ydi nid unrhyw bleidlais bersonol iddi hi, ond y ffaith bod y bleidlais wrth-Geidwadol yn rhannu yn weddol gyfartal rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur, a bod hi’n dod trwy’r canol.”