Fel nifer o etholaethau eraill yn y gogledd, mae’r Gwasanaeth Iechyd yn daten boeth yn yr ardal ar y ffin wnaeth ethol Tori am y tro cyntaf erioed yn 2019…
Yn dilyn newid ffiniau etholiadol Cymru, gyda nifer y seddi Cymreig yn San Steffan yn cwympo o 40 i 32, mae sedd ‘Wrecsam’ nawr yn cynnwys rhan helaeth o ddwyrain yr hen sedd ‘De Clwyd’.
O ran daearyddiaeth, mae hon bellach yn etholaeth sy’n mynd o’r Orsedd, ger y ffin â Sir Gaer, lawr drwy ddinas Wrecsam a Minera i’r gorllewin, ac yna lawr i Owrtyn yn y de.
Yn 2019, roedd etholaethau Wrecsam a De Clwyd yn rhan o’r ‘wal goch’ yng ngogledd Cymru wnaeth gefnu ar y Blaid Lafur ac ethol dau Aelod Seneddol Ceidwadol am y tro cyntaf erioed.
Enillodd Simon Baynes yn Ne Clwyd gyda 44.7% o’r bleidlais, a Sarah Atherton yn Wrecsam gyda 45.3%.
Gan fod De Clwyd ddim yn bydoli ers y newid y ffiniau, mae Simon Baynes yn brwydro dros y ffin am sedd Gogledd Sir Amwythig.
Mae saith ymgeisydd yn y ras yn Wrecsam y tro yma – Paul Ashton (Abolish the Welsh Assembly Party), Sarah Atherton (Y Ceidwadwyr), Charles Dodman (Reform) Becca Martin (Plaid Cymru), Tim Morgan (Y Gwyrddion), Andrew Ranger (Llafur), a Tim Sly (Y Democratiaid Rhyddfrydol).
Abolish the Welsh Assembly
Un blaid nad ydyn ni wedi clywed ganddi yn Golwg ers cychwyn y gyfres ar yr etholiad 2024 yw’r un sydd am ddiddymu’r “Assembly”, er mai Senedd sydd ganddo ni yng Nghaerdydd erbyn hyn wrth gwrs.
Yn Wrecsam, Paul Ashton sydd yn sefyll dros y blaid sydd yn gobeithio creu momentwm etholiadol yn arwain i mewn i etholiad y Senedd y maen nhw eisiau cael gwared ohoni yn 2026.
Mae’r ymgeisydd 60 oed o Owrtyn sy’n beiriannydd sifil wedi ymddeol yn credu bod cael un llywodraeth sydd yn “sbwriel” yn “fwy na digon”.
“Y gwir ydi, mae 8,000 o blant yn Wrecsam – chwarter o blant yr awdurdod – yn byw mewn tlodi, ac mae Llywodraeth Cymru yn torri’r cyllid addysg o 5%,” meddai yn dyfynnu ystadegau sy’n cael eu cefnogi gan y cyngor sir lleol.
“Mae’r rhan fwyaf o ysgolion cynradd – ac rwyf yn llywodraethwr mewn un ohonyn nhw – mewn diffyg cyllidol. Golyga hyn, os na chawn fwy o arian, y byddan ni’n gorfod colli athrawon a chynorthwywyr y flwyddyn nesaf…
“Dw i’n anghytuno efo sut mae’r Senedd [yng Nghaerdydd] yn gwario ei arian.
“Mae Ysbyty Maelor ar ei bengliniau… 20 mlynedd yn ôl, nid dyma fel yr oedd hi. A dwi ddim yn cytuno efo’r Senedd mai’r bai am hyn yw’r ariannu o San Steffan.”
Nid yw yn derbyn bod Abolish yn denu pleidleiswyr adain dde ac mae’n pwysleisio nad yw yn blaid yn wrth-Gymreig.
“Dwi yn fwy Cymreig na lot o bobl eraill, dw i’n cefnogi ein diwylliant fel Eisteddfod Llangollen, y Genedlaethol a’r iaith Gymraeg.
“Dydi dy feddylfryd gwleidyddol ddim yn cynrychioli pwy wyt ti, neu beth wyt ti’n feddwl o dy wlad dy hun. Dw i ond yn meddwl ein bod yn well fel cenedl efo Aelodau Seneddol San Steffan sydd yn edrych ar ôl ein gwasanaethau cyhoeddus.”
Ceidwadwyr
Er i Golwg ofyn am gyfweliad gyda Sarah Atherton, 56, y neges oedd ei bod hi ddim ar gael.
Rydym ar ddeall ei bod yn un o’r ymgeiswyr Torïaidd sydd wedi cael eu hysbysu bod eu mwyafrif ddim digon mawr i gyfiawnhau neilltuo adnoddau’r blaid i geisio dal ei gafael ar Wrecsam. 2,131 oedd mwyafrif Sarah Atherton yn 2019, ac mae adroddiadau bod y Blaid Geidwadol yn canolbwyntio ar amddiffyn seddi sydd â mwyafrif o 20,000.
Yn ystod lansiad maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd Sarah Atherton ar y Cyfryngau Cymdeithasol: “Rwyf yn hapus bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrando arnaf i ac ar drigolion Wrecsam ac yn troi’r sgriw ar bolisi chwerthinllyd blanced 20mya Llywodraeth Cymru.”
Plaid Cymru
Ymgeisydd y Blaid yn Wrecsam y tro hwn yw Becca Martin, 36, sy’n ddysgwr Cymraeg ac yn Gynghorydd Sir sy’n gweithio mewn siop yn y ddinas.
Mae hi yn sefyll fel ymgeisydd seneddol am y tro cyntaf yn yr etholiad hwn, ond nid yw wedi profi’r agwedd afiach at ferched ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Mae yna sicr lot o gasineb tuag at fenywod yn y byd,” meddai.
“Yn fy nghylchoedd i, dwi ddim wedi gweld hyn o gwbl, mae pobl yn gefnogol iawn. Ond pan rwyt ti’n mynd i bethau sydd mwy ar yr ymylon, fel grwpiau cymunedol ar y We, mi rwyt ti yn gweld y casineb yma lot mwy.”
Er bod adroddiad Prosiect Pawb Nerys Evans yn sôn am ddiwylliant o fwlio a chasineb tuag at fenywod ym Mhlaid Cymru, nid dyna brofiad Becca Martin sy’n dweud bod “lot o newidiadau wedi bod” ers cyhoeddi’r adroddiad.
“Yn bersonol, ddaru fi erioed teimlo lot o hyn beth bynnag, oherwydd yma yn Wrecsam… mi oeddwn i bob amser yn teimlo fy mod efo cefnogaeth.”
Fel sawl ymgeisydd arall, mae Becca Martin yn cadarnhau mai’r Gwasanaeth Iechyd sy’n dominyddu’r sgyrsiau ar y stepen ddrws.
“Er bod o’n fater datganoledig, mae yna ffyrdd bydd rhaid i ni weithio yn San Steffan i helpu efo materion iechyd oherwydd mae rhaid cael ariannu teg,” meddai.
“Mae yn rhaid i ni wedyn weithio yn y Senedd i fynd i’r afael efo’r gamreolaeth gan Lywodraeth Lafur Cymru.”
Mae hi o blaid diddymu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy’n gyfrifol am holl wasanaethau iechyd gogledd Cymru, a “gwahanu fo eto i mewn i dair ardal iechyd”.
Mae Ysbyty Maelor yn Wrecsam wedi bod mewn mesurau argyfwng ers mis Chwefror 2023. Ac mae gan Becca Martin brofiad personol o’r sefyllfa.
“Mae fy nhad wedi bod yn sâl iawn ac i mewn ac allan o’r ysbyty oherwydd mae ganddo fo broblemau ar ei galon,” meddai.
“Mi oedd o ar droli yn yr adran iechyd brys am ddau ddiwrnod ar ôl cael trawiad ar y galon, a ddaru fo gael strôc hefyd tra yn yr ysbyty. Dydyn ni ddim yn gwybod os roedd y strôc wedi’i hachosi gan y straen o’r sefyllfa, ond dydi’r hyn sydd wedi digwydd ddim yn iawn.”
Gwyrddion
Yn sefyll i’r Gwyrddion yn Wrecsam mae Tim Morgan, 43, dysgwr Cymraeg ac optometrydd sy’n wreiddiol o Wrecsam a nawr yn byw yn Sir y Fflint.
Er yn cyfaddef nad oes ganddo obaith caneri o gael ei ethol, mae yn sefyll er mwyn pwyso ar y Blaid Lafur i fod yn wyrddach.
“Yn yr etholiad cyffredinol [yn 2019], dim ond 1.3% o bobl ddaru bleidleisio i’r Gwyrddion, felly nid y disgwyl fydd i fi fynd lawr i San Steffan yn dilyn yr etholiad yma,” meddai.
“Rydym yn gwybod ei bod hi’n debygol iawn mai llywodraeth Lafur fydd yna ar ôl yr etholiad.
“Rydym eisiau i’r llywodraeth yna edrych allan o’u tŵr a meddwl: ‘Oce, ydi pobl eisiau i ni fod yn fwy blaengar fel y Gwyrddion, neu mwy fel Reform?’ Dyna ydi’r neges rydym eisiau ei chyfleu.”
Tlodi a chyflwr y Gwasanaeth Iechyd sy’n dân ar groen y Gwyrdd-ddyn.
“Fyddwn i ddim yn cymryd rhan mewn stwff fel hyn os fyddwn i ddim yn meddwl bod pethau ddim yn gwbl ofnadwy,” meddai.
“Mae’r nifer o bobl mewn tlodi a’r maint o bryder sydd gan bobl am ddefnyddio’r Gwasanaeth Iechyd yn enfawr.”
Y Blaid Lafur
Yn sefyll tros y Blaid Lafur y tro hwn mae Andrew Ranger, 53, sy’n byw yn Offa ac yn Gyfrifydd ac Ymgynghorydd Busnes i fusnesau bach ac yn Gynghorydd Cymunedol.
Nid oedd ar gael am sgwrs, ond fe anfonodd ddatganiad sy’n adleisio llawer o’r hyn mae’r Blaid Lafur wedi bod yn ei ddweud yn ystod yr etholiad.
“Yn anffodus, ar ôl bron i bum mlynedd arall o anhrefn, methiant economaidd, argyfwng costau byw, tri Phrif Weinidog, a gwasanaethau cyhoeddus yn agos i bwynt torri – mae lot o bobl yn Wrecsam yn dweud wrtha i eu bod wedi cael eu gadael i lawr gan y Llywodraeth bresennol a bod hi’n amser i newid,” meddai Andrew Ranger mewn datganiad.
“Mae gan Wrecsam draddodiad Llafur cryf, sydd yn dod o ganlyniad i’w hanes a gwerthoedd diwydiannol.
“Gyda llais cryf yn San Steffan yn gweithio efo ein cynrychiolwyr etholedig lleol a Llywodraeth Cymru, rydym yn gallu cyflawni gymaint mwy i Wrecsam a thu hwnt.”
Un elfen sydd wedi dod a theimlad o hapusrwydd i Wrecsam ydi’r clwb pêl-droed. Fel mae’r gân sy’n gysylltiedig ag un o berchnogion y clwb Rob McElhenney yn ei ddweud – ‘It’s Always Sunny in Wrexham’.
Mae’r llwyddiant yma yn rhywbeth mae’r Llafurwr yn awyddus i gymryd mwy o fantais ohono.
“Rydym yn gallu gweld bod y nifer o ymwelwyr yn y ddinas sydd yn gysylltiedig efo’r tîm pêl-droed wedi cynyddu a sut mae hyn yn helpu busnesau,” meddai.
“Os fyddwn yn ddigon ffodus i gael fy ethol gan bobl Wrecsam fel eu AS, wedyn mi fydda i’n gweithio ar draws y bwrdd efo’r clwb pêl-droed, y cyngor, busnesau, cymunedau a mwy – i ddod â phobl at ei gilydd i sicrhau bod Wrecsam yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd sy’n dod o ganlyniad i lwyddiant y tîm.”
Er i Golwg ofyn am gyfweliadau gyda Charles Dodman o blaid Reform UK, a Tim Sly o’r Democratiaid Rhyddfrydol, nid chafwyd ateb.
Barn y bobl
Beth yw blaenoriaethau’r bobol yn Wrecsam? Aeth Golwg i holi dau o drigolion yr etholaeth…
George Andrews, 31, o Johnstown: “Fy mlaenoriaeth i fydda i wneud yn siŵr bod pobl ddigartref yn Wrecsam yn derbyn y cymorth a’r lles maen nhw angen. Mae’r boblogaeth sy’n ddigartref wedi tyfu yn aruthrol dros yr 14 mlynedd diwethaf o dan y Torïaid. Mae pobl sydd angen cymorth yn dioddef ac mae’r effaith ar fusnesau ar y stryd fawr, ynghyd â’r effaith ar wasanaethau iechyd brys yn amlwg.”
Daniel Hughes, 26, o Acton: “Mi fyddwn yn ymgysylltu efo’r gymuned gymaint ag sy’n bosib drwy fynd i gymaint o ysgolion, busnesau lleol a’r gwasanaethau iechyd, i roi’r cyfle iddyn nhw ddod i nabod fi ar lefel bersonol, yn hytrach na lefel canfasio. Dw i ddim wedi gweld Sarah Atherton yn Wrecsam unwaith.”