Rwy wedi byw yn Sir Gâr ar hyd fy oes – ar fferm fechan, mewn pentref a thref. Mae fy mhlant a’m hwyrion yn byw yma, yn gweithio ac yn cael eu haddysg. Rwy’n cytuno gyda sylwadau Gareth Llwyd (Golwg 20/6/24) bod newid demograffig yn digwydd o fewn y sir.

Mae llawer o deuluoedd ifanc am fyw mewn trefi neu bentrefi sy’n agos i’w lle gwaith neu ysgolion eu plant, tra bod mewnfudwyr i gefn gwlad yn rhoi’r olygfa a llonyddwch o flaen y fath ystyriaethau ymarferol.