Ganrif ers ei farwolaeth, mae “bywyd arbennig” David Ivon Jones yn cael ei ddathlu’r penwythnos hwn yn Aberystwyth. Un o’r trefnwyr, Meic Birtwistle, sy’n egluro mwy am y Cymro fu’n brwydro yn erbyn hiliaeth a thros hawliau’r gweithwyr ym mlynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf…

 

Wrth ysgrifennu yn Ne Affrica ym 1919 roedd y Cymro David Ivon Jones yn pregethu gwleidyddiaeth wir chwyldroadol wrth ystyried y man a’r amser.