Mae dau artist o Ben Llŷn wedi mopio â Mecsico, ei bwyd a’i phobol…

Mae Chris ac Anna Higson yn frawd a chwaer. Dim byd yn anarferol yn hynny, meddech chi. Ond faint o frodyr a chwiorydd yn eu tri degau sydd wedi rhedeg bwyty, teithio a chreu gwaith celf gyda’i gilydd?