Mi fydd yn brofiad sy’n gyfarwydd i nifer – mynd draw i stondin Cadwyn ar faes Steddfod a gwylio enw yn cael ei losgi ar lwy garu neu ecob.

Ac eleni mi fydd criw cwmni cydwybodol Cadwyn yn dathlu hanner canrif o gynnal y fenter fu’n ffon fara i grefftwyr yma yng Nghymru a draw yn Affrica.

Fe gafodd y busnes ei sefydlu gan Ffred a Meinir Ffransis, y cwpwl priod sy’n adnabyddus am frwydro dros hawliau siaradwyr Cymraeg ac sydd wedi eu carcharu droeon yn y broses.