‘Cymer dy gyfle a cher amdani…’ Dyna neges ar record fer newydd y tenor o Ruthun, a fyddai yn arfer treulio’i lencyndod yn siop Cob Records…

Tybed faint o gantorion opera sydd wedi mentro i fyd canu roc? Roedd y tenor Andrea Bocelli yn canu pop cyn i Pavarotti ei ddarganfod. Fe recordiodd Placido Domingo ganeuon pop gyda John Denver a Julio Iglesias. Mae Bryn Terfel wedi canu gwerin, a Renee Fleming wedi arbrofi gydag indi-roc. Ond faint o gantorion clasurol sydd wedi meistroli’r gitâr drydan a chyhoeddi record roc? Dyma’n union mae Rhys Meirion wedi ei wneud.

Roedd yn brifathro ysgol, yr ieuengaf yn y wlad, cyn iddo ennill y Rhuban Glas yn 1996, a chael ei dderbyn ar gwrs Opera y Guildhall yn 31 oed. Cwrs a oedd yn derbyn ond 16 allan o 2,000 o ymgeiswyr. Cafodd swydd prif denor gydag Opera Cenedlaethol Lloegr yn 1999 ac ers hynny mae wedi cael rhannau operatig pwysig fel Rodolfo (La Boheme), Alfredo (La Traviata) a’r Dug (Rigoletto), a pherfformio fel unawdydd mewn tai opera mawr fel y Carnegie Hall yn Efrog Newydd, Tŷ Opera Sydney, Glyndebourne a Chanolfan y Mileniwm.

Ef yw’r llais sydd wedi anfarwoli’r gân ‘Anfonaf Angel’, ac mae yn cyflwyno rhaglen eiconig Ar Eich Cais ar Radio Cymru bob nos Sul, yn lle’r diweddar Dai Jones. Mae wedi gwneud ei enw yn cyflwyno ar deledu hefyd, ar Dechrau Canu Dechrau Canmol, ac yna Deuawdau Rhys Meirion, a nawr Canu Gyda Fy Arwr, sydd ar ei phedwaredd gyfres.

Er yr yrfa lewyrchus, roedd rhyw ysfa gerddorol arall yn ei grafu ers tro byd – chwarae roc a blŵs ar y gitâr. Nawr mae wedi cyhoeddi record fer gyda Recordiau Sain, Yn D’oed a D’amser – pum can blŵs, roc a baled wreiddiol.

Yn y Galeri, Caernarfon, lle mae yn rhoi gwersi canu pan fo’i yrfa brysur yn caniatáu, bu’n sgwrsio gyda Golwg am yr hyn a barodd iddo godi’r gitâr drydan a fynte dros ei 50 oed.

“Rhag ofn bod fy ffans clasurol i’n poeni, dydw i ddim yn rhoi’r gorau i ganu clasurol,” meddai. “Mae hwnnw’n parhau, a hynny fydd y prif beth i ennill bara menyn i mi, tra bydda i yn gallu. Ond mae’r diddordeb yn y canu roc a’r blŵs gen i ymhell cyn canu clasurol, dweud y gwir.”

Pan oedd yn ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog, fe fyddai e a’i ffrindiau yn mynd amser cinio i siop Cob Records i brynu recordiau gan fandiau roc trwm fel Queen ac AD/DC a chewri blŵs fel B B King. Mae’n cofio rhyfeddu at gitaryddion dawnus fel Tich Gwilym a Les Jones ar ddiwedd Nosweithiau Sgrech. Pan oedd tua 16 oed, mi ofynnodd i’w rieni am gitâr drydan, ond ni chafodd un.

“Ro’n i wastad â diddordeb mewn cael gitâr, a dw i’n cofio gofyn am gitâr letrig un ’Dolig,” meddai. “Dw i’n cofio’r ateb ’fath â ddoe. Rhagfarn bur… ‘Na, chei di ddim, neu mi fyddi di’n joinio band ac mi fyddi di ar drygs!’ Ha! Fel’na oedd yr oes yna.”

Mi gafodd gitâr acwstig rad iawn, ond roedd hi’n dda i ddim, a’r llinynnau heb eu gosod yn iawn. “Mi dorrais i ’nghalon,” meddai. “Roedd y bysedd yn brifo… a dyna fo. Ro’n i wastad â diddordeb. Hyd yn oed rŵan, o’r holl fiwsig dw i’n gwrando arno fo, mae’n siŵr mai tua 25% sy’n glasurol.”

Anogaeth gan Lleuwen a Deborah

Flynyddoedd wedyn mi gafodd ei annog i ddysgu’r gitâr gan y gantores werin Lleuwen Steffan wrth iddyn nhw recordio pennod o Deuawdau Rhys Merion yn 2017. “Roedd hi’n dweud, ‘dw i’n siŵr fasat ti’n gallu sgrifennu caneuon da’,” meddai Rhys Meirion. “‘Wel ia, ocê, hmm…’ Ac o’n i’n cael tecst yn gofyn ‘ti wedi cychwyn eto?’”

Yn ystod cyfnod Covid, fe brynodd gitâr acwstig a mynd ati i ddysgu cordiau. Yna cafodd ei ysbrydoli gan Eidales o’r enw Deborah Morgante, un o westeion Canu Gyda Fy Arwr. Ar ddiwrnod y ffilmio yn Nant Gwrtheyrn y tynnodd y ffotograffydd Iolo Penri y llun o Rhys sydd ar glawr yr EP.

“Ro’n i wedi bod yn edrych ar fideos ohoni cyn iddi ddod, a meddwl, ‘waw, mae hon yn wych ar y letrig gitâr’,” meddai. “Roedd hi yn perfformio efo Candelas, ac yn cael chwarae’r gitâr solo mawr yng nghanol ‘Llwytha’r Gwn’. Dw i’n cofio meddwl bryd hynny – waw, mae hyn yn ffantastig… Dyma fynd o fan’no a dechre mynd amdani, ac mi wnes i ordro letrig gitâr.

“Roedd Deborah wedi gallu dysgu Cymraeg, yn yr Eidal, heb ddim dropyn o waed Cymraeg. Os oedd hi wedi gallu gwneud hynna, siawns na allwn i ddysgu gitâr? Felly dyma’r letrig gitâr yma yn dod, a dechra’ dysgu.”

Y cymhelliant pennaf oedd cael dyddiad i gyd-berfformio ar y gitâr drydan gyda Mike Peters o’r Alarm, ar Canu Gyda Fy Arwr yn 2022, a dyna ddechrau ei dysgu o ddifri. Perfformiodd y ddau’r gân ‘Cariad, Gobaith a Nerth’, a’i chyhoeddi fel sengl elusennol. Mae hi’n amlwg ar y rhaglen – sydd yn dal ar gael ar iPlayer – fod Rhys yn cael modd i fyw yn chwarae’r solo ar y gitâr.

Adeiladu stiwdio

Erbyn mis Awst 2023 roedd Rhys wedi ailadeiladu’r garej a’i droi yn stiwio, a recordio ei lais ei hun ar bum cân wreiddiol, ynghyd â lleisiau cefndir Nia ei wraig, Elan ac Erin ei ddwy ferch ac Osian y mab. A dyma feddwl am gyhoeddi record i rannu ei ganeuon gyda’r byd.

“Mae o’n dipyn o beth,” meddai. “Y cwbl ro’n i wedi bod yn ei wneud oedd canu caneuon pobol eraill. Yr unig beth ro’n i yn mynd i gael fy meirniadu arno fo oedd y llais. Ond efo hwn, mae’n hollol wahanol – rydach chi wedi sgrifennu’r geiriau, y gerddoriaeth, y trefniannau ac rydach chi’n ei ganu fo. Mae o’n fwy personol.”

Yn stiwdio Sain cafodd gyfraniadau gan Osian Williams (Candelas) ac Aled Wyn Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) ar y bas, a’r pianydd o Efrog Newydd, Morris Pleasure, sydd wedi ymgartrefu yn Aberystwyth. Mae Mo Pleasure wedi chwarae gydag artistiaid byd-enwog fel Ray Charles, Michael Jackson a Bette Midler, ac fe fu’n gyfarwyddwr cerdd i Earth, Wind and Fire am 15 mlynedd.

“Mi wnaethon ni rywbeth efo’n gilydd yn ystod y cyfnod clo, rhywbeth rhithiol o’r Ganolfan Gelfyddydau yn Aberystwyth,” meddai Rhys. “Gofynnais i iddo: ‘Would you mind playing the keys on this 12-bar blues that I’ve written about prejudice?’ ‘It would be an honour’ medda fo. Dyma fo’n dod at y piano yn Sain, a jest yn ffidlan. Ac Aled yn gofyn: ‘Ok, Mo, when you’re ready…’ ‘Ready,’ medda fo cyn i Aled orffen y frawddeg. Mae’r gân yn chwe munud a hanner o hyd… Roedd Osian a fi ac Aled yn sbïo, fatha plant bach yn giglo… Roedd wrth ei fodd yn Sain, ac efo’r hogia.”

Canu roc yn fyw?

Erbyn hyn, mae gan Rhys Meirion bedair gitâr yn hongian ar wal y stiwdio yn ei gartref yn Rhuthun, dwy drydan a dwy acwstig.

Fe fydd yn canu mewn sawl cyngerdd clasurol dros y misoedd nesaf, ac yn mynd ar daith i’r Wladfa i ganu yn yr hydref. Nid oes ganddo gynlluniau eto i wneud cyngerdd roc, ond mae yna obaith.

“Mae’r caneuon i gyd yn gweithio’n reit dda jest efo acwstig gitâr,” meddai. “Efallai, mewn ambell i le ddim mor ffurfiol, yr af i â’r gitâr efo fi ac efallai canu un neu ddwy ohonyn nhw ar y diwedd. Dw i eisio mireinio’r grefft yn iawn cyn mynd yn fyw – yn enwedig efo band, yn enwedig efo electric gitâr.

“Dw i wedi bod jest yn sefyll yna’n canu a gorfod meddwl am y geiriau a’r nodau’n unig. Os ydach chi efo gitâr, rydach chi’n gorfod chwarae’r cordiau iawn, cofio’r geiriau a’r gerddoriaeth. Mae’n rhaid i’r tair elfen yna ddod ynghyd heb i chi orfod meddwl amdano fo.

“Mae yna’n bendant obaith i’w perfformio nhw’n fyw efo band llawn yn y dyfodol.”

Ac yntau wedi mentro i fyd opera yn ei 30au, a yw ei fryd nawr yn ei 50au ar fynd yn ganwr roc?

“Dw i erioed wedi cynllunio dim byd yn fy mywyd. Do’n i ddim wedi cynllunio bod yn brifathro mor ifanc, do’n i ddim wir wedi cynllunio mynd yn ganwr opera, a dw i ddim wedi cynllunio bod yn ganwr roc. Ond pwy a ŵyr.”

 

Y caneuon

Da Ni Yna i Chdi: Cân er cof am ei chwaer Elen a fu farw mewn damwain drasig yn 2012, a’i fam a fu farw dair blynedd wedyn, yw hon. Mae Rhys yn dychmygu ei hun yn y sefyllfa lle mae ei dad ar ei wely angau ac yn cael y cyfle pwysig hwnnw i afael yn ei law, rhywbeth nad oedd wedi gallu ei wneud gyda’i chwaer a’i fam. Mae ei ferched yn canu ar hon hefyd.

“Dw i’n gweld hi’n dod o ochr bositif,” meddai’r canwr. “O fod drwy brofedigaeth ddwywaith, rydach chi’n edrych ar bethau’n wahanol. Rydach chi’n byw i’r funud, ac yn trio peidio colli cyfleon, ac yn mynd amdani bob dydd bron, achos dy’ch chi ddim yn gwybod beth sydd rownd y gornel.”

Thomas Richards: Ar hon mae Rhys yn canu rhai o linellau cynghanedd ei hen daid, Thomas Richard y Wern. Ef oedd awdur un o englynion enwocaf yr iaith Gymraeg, ‘Y Ci Defaid’. “Mewn ffordd, dw i’n siarad efo fo,” meddai, “ac yn dweud a ydi o’n destun balchder bod ‘rhwydd gamwr hawdd ei gymell’ ar waliau ein tai ni ac ar ein tafodau ni’n dal? Roedd o yn ffrindiau mawr efo Hedd Wyn a Carneddog… fe leiciwn i fod wedi bod yn bry’ ar y wal efo’r rheina! Mae trio rhoi englynion mewn cân bop, baled, roc – pa bynnag genre mae hi’n disgyn – yn dipyn o her achos mae’r acenion mor gry’. Ond maen nhw wedi disgyn i’w lle yn reit dda.”

Ti’m yn Byw er eu Mwyn: Mae rhagfarn yn beth atgas i Rhys Meirion ac yn y gân hon mae’r cerddor yn annog pobol i fynd amdani ac anwybyddu safbwyntiau culion pobol eraill. “Mae yna ragfarnau ym mhob man yn y byd,” meddai wrth Golwg. “Mi fyddwn i’n leicio bod pawb yn dod i ddeall rhywbeth, yn gwneud rhyw ymchwil, neu’n dod i nabod rhywun, cyn beirniadu neu wneud eu meddwl fyny am rywbeth.”

Fe ddioddefodd Morris Pleasure, sydd yn chwarae’r allweddellau ar y gân, ymosodiad hiliol yn Aberystwyth y llynedd, a chafodd ei ymosodwr ei erlyn a’i garcharu. “Roedd o’n bwrpasol iawn ei fod o’n dod mewn i chwarae ar hon,” meddai Rhys. “Dw i’n cofio trafod efo ar y pryd, iddo fo beidio meddwl fod pob Cymro’r un peth – dydan ni ddim.”

Mae ei deimladau cryfion ynglŷn â rhagfarn yn cael eu mynegi drwy’r gitâr. “Mae’r solos yn reit galed,” meddai. “Mae yna un pennill am ragfarn oedran. Pan rydach chi’n cyrraedd eich 50au, 60au, mae yna ryw ddisgwyl i chi fynd i eistedd yn eich cadair, efo eich traed yn eich slipers… Dw i’n dweud ‘no wê’, yna mae’r gitâr yna allan, ha ha!”

Fel Haul a Machlud: Cân serch ddidwyll i’w wraig Nia yw hon. Mae’r ddau yn briod ers 29 o flynyddoedd. Yn y gân mae’n canu ‘Pob dydd mor werthfawr i ni ei rannu, mae’n heneidiau wedi’u plethu…’ Fe fuodd Nia yn gefn mawr iddo ar ôl iddo adael ei swydd ddysgu a mynd i astudio Opera a hwythau â mab bach blwydd a hanner oed. “Mae hi wedi bod yn gymaint o gefnogaeth,” meddai. “A’i theulu hi yn andros o gefnogol. Meddyliwch ddweud wrth eich rhieni-yng-nghyfraith eich bod chi’n rhoi’r gorau i swydd oedd mor saff.”

Tra Ti’n Dileu dy Hanas: Cân am ofera a gwastraffu cyfle yw hon. Mae’r canwr yn tristau yn gweld pobol ar eu ffonau symudol, ac yn canu, ‘mae’r byd yn troi o’th gwmpas, tra ti’n dileu dy hanas!’

“Dw i’n teimlo mor lwcus fy mod i wedi cael fy magu, yn enwedig yn fy arddegau, heb yr hen fobail ffôns yma,” meddai. “Mae’r gân yn cychwyn yn dawel iawn, efo jest piano, yna dw i’n dweud ‘deffrwch!’ ac mae o’n troi yn roc wedyn. Un cyfle sydd ganddon ni ar y byd yma. Cymer dy gyfle a cher amdani – dyna ydi’r gân.”

 

  • Yn D’oed a D’amser, Rhys Meirion – allan ar Recordiau Sain