Rydw i ar fy ail siwrne i Fangor o fewn wythnos. Rwy’n rili mwynhau’r siwrne trên o Lundain i ogledd Cymru – o ran sut mae tirwedd fflat Lloegr yn esgor ar fynyddoedd o wyrddni a golygfeydd o’r môr yn Llandudno a Bae Colwyn… ac yna pryd rwy’n cyrraedd Bangor, mae’r awyr iach yn arogli a blasu yn “lân” mewn ffordd sydd wastad yn groesawgar iawn ar ôl teithio o Lundain.