Cymru yw’r wlad orau yn y byd am ailgylchu, namyn Awstria. Rydym yn llwyddo i adfer ac ailddefnyddio 59% o’n gwastraff.
Ond ‘nid da lle gellir gwell’ yw hi ym Mhowys, ble mae pwyslais o’r newydd ar annog trigolion y canolbarth i ailgylchu metel.
Drwy’r project ‘MetalMatter’ mae’r cyngor sir lleol yn pwysleisio – ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn ysgolion – bod modd troi’r alwminiwm o duniau bwyd a chaniau aerosol yn feics, ffonau symudol a thegellau.
Yn y llun mae Tom Giddings (Cyfarwyddwr Gweithredol Sefydliad Ailgylchu Pecynnau Alwminiwm ‘Alupro’), Eleanor Shorland (Swyddog Addysg Ailgylchu cwmni dur Tata Steel), a James Thompson (Rheolwr Ymwybyddiaeth Gwastraff Cyngor Sir Powys).