“Dyfalwch pwy sydd yn ei ôl, yn ei ôl eto” – dyna eiriau agoriadol Nigel Farage wrth iddo gyflwyno ei gytundeb – nid Maniffesto! – i bobl gwledydd Prydain ddechrau’r wythnos yn nhref Merthyr Tudful.

Roedd Arweinydd plaid Reform yn dyfynnu geiriau cân ‘Without Me’ y rapiwr Eminem o Mericia, er mwyn ceisio gwneud hwyl am ben y ffaith ei fod wedi dychwelyd i’r llwyfan gwleidyddol unwaith yn rhagor, ar ôl gwneud hynny droeon gyda phleidiau UKIP a’r Brexit Party.