Diolch byth am ddyfodiad yr Euros, achos mae hyd yn oed fi’n dechrau diflasu braidd ar yr etholiad cyffredinol. A ninnau mwy na hanner ffordd drwy’r ymgyrch, mae hi wedi bod yn un ddistaw ac, ar wahân i ambell sioc fel ailddyfodiad diflas Nigel Farage, mewn difri rydyn ni’n sicrach byth i ba ffordd mae’r gwynt yn chwythu.