Ym mis Chwefror roedd Angharad Mair ar raglen ‘Hawl i Holi’ Radio Cymru yn dweud fod S4C wedi “colli cyfeiriad” yn y blynyddoedd diweddar, a’i bod hi “ddim yn deall pam bod rhaid i ni fod yn fwy Seisnig rywsut er mwyn apelio i gynulleidfa newydd”.

Wrth i reolwyr newydd osod eu stamp ar S4C, mae angen i ni atgoffa ein hunain o bwrpas craidd y Sianel Gymraeg, yn ôl Carl Morris, Cadeirydd Grŵp Darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg…

 

Os yw S4C wedi “colli cyfeiriad”, fel y mae rhai fel Angharad Mair wedi dweud eleni, mae hi’n hynod o bwysig i gofio ei phwrpas.

Mae’r llyfryn S4C: Pwy Dalodd Amdani? gan Gymdeithas yr Iaith yn adrodd hanes y frwydr i sefydlu’r sianel, ac yn ddogfen gafodd ei chyhoeddi yn 1985 ac sy’n parhau i fod yn berthnasol yn 2024. Yn y dechrau, cyn geni S4C yn 1982, roedd ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith ac eraill yn arddel yr egwyddor o sefydlu sianel cyfrwng Cymraeg fel gwasanaeth cyhoeddus gyda chyllid digonol; a hynny ar y sail os oedd y Gymraeg am oroesi fel iaith fyw, roedd rhaid iddi gael lle ar y teledu.

Wedi ennill y frwydr dros sefydlu’r sianel, dywedodd Gwynfor Evans mai hon oedd “buddugoliaeth mwya’r ganrif i’r iaith Gymraeg.” Bron i ddegawd ynghynt, dywedodd Saunders Lewis bod sefydlu awdurdod teledu a darlledu annibynnol i Gymru yn “fater byw neu farw” i’r iaith.

Er gwaethaf holl newidiadau cymdeithasol, gwleidyddol, cyfryngol, a thechnolegol y degawdau ers hynny, mae’r egwyddor yn parhau. Mae’r ffyrdd mae cynnwys yn cael ei ddosbarthu, a’r ffyrdd rydym yn ei wylio wedi newid wrth gwrs. Ond yn ein hoes ffrydio mae sianel fel endid sy’n comisiynu rhaglenni a chynnwys Cymraeg yn parhau i fod yn anhepgor o hyd.

Mae rhan hanfodol gan S4C yn y siwrne tuag at ddemocratiaeth iachus, diwylliant ffyniannus, a chymunedau byw, delfryd sy’n dibynnu ar ei phwrpas sylfaenol. Yn anffodus mae llawer o wahaniaeth rhwng hyn a chanfyddiadau a fynegwyd gan wleidyddion a’r rhai sydd wedi bod yn rhedeg S4C.

Nid pwrpas S4C yw…

Nid pwrpas y Sianel Gymraeg yw “cyflwyno talent Cymru i’r byd”, yng ngeiriau’r cyn-Brif Weithredwr Siân Doyle yn ei llythyr at Adran Ddiwylliant Llywodraeth Prydain – y DCMS – ym mis Tachwedd 2023. Nid dyna yw’r pwynt.

Nid ei phwrpas yw, mewn geiriau o fis Ebrill 2024 gan Hannah Blythyn y cyn-Weinidog Llywodraeth Cymru dros y Diwydiannau Creadigol, “hyrwyddo Cymru a’r Gymraeg yn fyd-eang”.

Nid ei phwrpas chwaith yw “mynd â chynnwys Cymraeg i’r byd”. Dyma gafodd ei ddatgan gan Llinos Griffin-Williams fel un o amcanion swydd Prif Swyddog Cynnwys, wrth iddi adael tîm rheoli’r sianel ym mis Tachwedd 2023.

Yn wir, nid pwrpas y sianel yw allforio cynnwys i gael ei syndiceiddio gan gwmni Ryan Reynolds neu unrhyw endid arall. Nid yw hi’n broblem fel y cyfryw os bydd pobl tu fas i Gymru neu Ynys Prydain dyweder yn cael cyfle i wylio ambell i raglen S4C, ond dylid pwysleisio bob amser pwy yw’r gynulleidfa graidd, sef siaradwyr Cymraeg hen a newydd o bob cefndir, ac unrhyw un arall yng Nghymru ac i raddau Ynys Prydain sydd am wylio rhaglenni Cymraeg. Ffolineb yw ceisio apelio at bawb, yn enwedig ar ein traul ni. Mae gwrthdaro yn anochel yn y pen draw rhwng mympwyon y farchnad deledu fyd-eang ac anghenion y cynulleidfa graidd.

Cyfiawnhau bodolaeth y Sianel

Mae’r sianel yn cynhyrchu £1.77 i economi’r Deyrnas Gyfunol am bob £1 sy’n cael ei gwario arni yn ôl ymchwil a gomisiynwyd gan S4C, fel rhan o ddadl – yn ôl pob tebyg – i’w hamddiffyn ei hun. Dylen ni fod yn eithriadol o ofalus am unrhyw ymdrech fel hyn i geisio cyfiawnhau bodolaeth y sianel ar sail adenillion buddsoddiad ariannol. Os mai dyna’r unig feini prawf rydym yn eu harddel mae perygl go-iawn o danseilio’r hyn sy’n bwysig ac unigryw am S4C yn llwyr.

Hynny yw, nid prosiect buddsoddi ariannol yw S4C. Os ydym am atgyfnerthu’r ffordd Thatcheraidd hon o werthfawrogi’r sianel ar draul gwerth cymdeithasol, mae hi’n berffaith debygol bod gwahanol fuddsoddiadau sy’n ennill mwy o arian dros amser, ac y bydd y rheini yn fwy apelgar i wleidyddion. A beth ddylen ni wneud os nad yw S4C yn ennill mwy o arian yn ôl i’r economi nag sy’n cael ei wario arni – ei diddymu? Wrth gwrs, mae perthynas bwysig rhwng yr economi a ffyniant neu ddirywiad ein cymunedau, ond o ran teledu mae’n hanfodol i’r iaith ein bod yn cyllido Sianel Gymraeg, waeth beth yw ei budd ariannol i’r economi.

Mae amrywiaeth barn eang iawn ar raglenni Cymraeg, sy’n gallu bod yn ffyrnig o ystyried bod yr holl gyfrifoldeb ar un sianel deledu Gymraeg yn unig o hyd. Mae Cymdeithas yr Iaith ac eraill yn galw am ddatganoli grymoedd dros ddarlledu a chael pwerau yng Nghymru i reoli’r cyfryngau er lles pobl Cymru a’r Gymraeg. Buasai hynny yn dod â chyfleoedd i gynyddu plwraliaeth yn y sector, a chynnig mwy o ddewis trwy ragor o sianeli a phlatfformau.

Ond beth bynnag eich barn unigol ar y rhaglen ddiweddaraf, wrth amddiffyn y sianel ar gyfer y dyfodol mae hi’n hanfodol bod gwleidyddion, gweithwyr teledu, a charedigion teledu Cymraeg yn uno tu ôl i’r egwyddor hanfodol o Sianel Gymraeg sy’n wasanaeth cyhoeddus gyda chyllid digonol.

 

Gallwch ddarllen y llyfryn S4C: Pwy Dalodd Amdani? ar wefan Cymdeithas yr Iaith:

cymdeithas.cymru/sites/default/files/archif/pdf/s4c-pwy-dalodd-amdani.pdf