Beth sydd mewn enw?

Bues i yn darllen am achos cyfreithiol rhyfedd yr wythnos hon fu o flaen y Llys Apêl yn 2016 wedi i Awdurdod Lleol geisio gorchymyn llys i atal mam rhag rhoi’r enwau ‘unigryw’, Preacher a Cyanide, i’w hefeilliaid.

Yn ôl y fam roedd Preacher yn enw ysbrydol cryf ar gyfer ei mab, a chynigwyd yr enw Cyanide ar gyfer ei merch ar y sail bod y gwenwyn Cyanide yn gyfrifol am ladd Hitler a Goebbels, sy’n ei wneud yn enw positif yn ôl y fam!