Rydw i’n ddigon hen i ymuno â’r fyddin.

Yn ddigon hen i weld pethau uffernol, felly, ac i wneud pethau fydd yn cael effaith hirdymor ar bobol eraill ac ar fy iechyd meddwl i fy hun am byth. Mi alla i gael yr hyfforddiant i wybod dan pa amgylchiadau mae’n dderbyniol ac yn gyfreithlon i mi ladd person arall, ac rydw i’n cael fy ystyried yn ddigon hen i allu ymdopi efo effeithiau hynny.

Dydw i ddim yn ddigon hen i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol.