O ran ei maint daearyddol, Dwyfor Meirionnydd yw un o etholaethau mwyaf Cymru ers yr ad-drefnu ffiniau ac mae ganddi 69,803 o etholwyr.

Dyma etholaeth sy’n cynnwys talpiau o Wynedd a Sir Ddinbych ac yn ymestyn o Gaernarfon lawr i Aberdyfi ac o Aberdaron i Gorwen.

Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wnaeth ennill yr hen sedd gyda 48.3% o’r bleidlais yn 2019, ac mae hi’n sefyll eto ac yn ffefryn clir i ennill, yn ôl arolygon barn YouGov.

Mae chwe ymgeisydd yn herio’r Blaid yn Nwyfor Meirionydd ar ei newydd wedd – Joan Ginsberg (Heritage), Joanna Stallard (Llafur), Karl Drinkwater (Gwyrddion), Lucy Murphy (Reform), Phoebe Jenkins (Democratiaid Rhyddfrydol) a Tomos Day (Ceidwadwyr).

Plaid Cymru  

Er ei bod yn ffefryn, nid yw Liz Saville Roberts yn ffan o’r newid ffiniau.

“Mae’r etholaeth yn un enfawr. Mae o ychydig yn ddigalon. Dw i’n cofio yn 2015, ddaru ni lwyddo i fynd i bob un o be sy’n cael ei ystyried fel cymuned [yn yr etholaeth]. Ond y tro yma, dw i’n meddwl bydd o’n heriol,” meddai’r gwleidydd 59 oed.

“Mae Dwyfor Meirionydd wedi mynd fyny o 1,300 milltir sgwâr, i 1,600 – felly rydym wedi bod yn ymgyrchu i ryw raddau ers cychwyn y flwyddyn i wneud yn siŵr ein bod yn ymweld efo’r cymunedau newydd i’r etholaeth.”

Nid yw yn hapus bod nifer Aelodau Seneddol Cymru yn cwympo o 40 i 32.

Yn cyfeirio at y slogan ‘Take Back Control’, dywedodd mai “addewid mawr Brexit oedd bod ni’n cymryd grym yn nôl o fewn ychydig o flynyddoedd. Ond mae Cymru yn colli lleisiau o fewn Tŷ’r Cyffredin, ac yn colli mwy byth o rym pan mae o’n dod i bleidleisio.”

“Tegwch ac uchelgais i Gymru,” yw neges y Blaid a Liz Saville Roberts i Gymru ac i Ddwyfor Meirionnydd.

“O ran tegwch, rydym yn edrych ar… ariannu, sydd yn greiddiol i bob dim arall rydym yn gallu gwneud, i deuluoedd, oherwydd mae pawb yn teimlo gwasgfa’r argyfwng costau byw. Ac er bod o’n rym wedi datganoli, Iechyd hefyd. Mae rhaid i ni drafod tegwch i gleifion a’r system iechyd.

“Dyma be dw i’n cael ar y stepen ddrws. Mae’r staff maen nhw’n eu gweld [yn y Gwasanaeth Iechyd] yn arbennig o dda, ond mae’n amlwg bod yna brinder aruthrol ohonynt yn y gogledd orllewin a trwy gydol Cymru Yn anffodus, dydi’r gwasanaethau cyhoeddus ddim yn gweithio ar hyn o bryd”.

Llafur

Ymgeisydd y Blaid Lafur yn Nwyfor Meirionnydd yw Joanna Stallard, merch 27 oed o Aberystwyth yn wreiddiol ac sy’n Rheolwr Recriwtio yn Llundain ac yn siarad Cymraeg.

Bu yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn 2013 a Chyngor Tref Llangollen fel cynrychiolydd ifanc, ac mae ganddi brofiad yn gweithio i wleidyddion Llafur.

“Drwy’r gweithgareddau yma a’r cyfle i wneud gwaith cysgodol efo Ken Skates, ddaru fi ffeindio allan fy mod i wir yn licio gwleidyddiaeth,” meddai.

“Ddaru fi hefyd weithio fel Ymchwilydd Seneddol yn San Steffan i Susan Elan Jones (AS De Clwyd tan 2019), felly ro’n i o hyd yn bwriadu sefyll pan oeddwn yn hŷn. Efallai yn fwy gynt nag oeddwn i’n disgwyl, fe gefais y cyfle i sefyll yn Nwyfor Meirionnydd.”

Er nad yn byw yn yr etholaeth, mae Joanna Stallard yn pwysleisio ei bod wedi ei magu “dim ond pum milltir lawr y lôn yn Llangollen”.

“Dw i’n gwybod lot am yr ardal, a dw i o hyd wedi teithio o gwmpas gogledd Cymru,” meddai.

“Mae o wedi bod yn ddiddorol darganfod llefydd newydd o fewn yr ardal enfawr yma rŵan yn ystod yr ymgyrch. Yn sicr mi fydd maint yr etholaeth yn her i bwy bynnag sydd yn llwyddiannus.”

Mae’r Lafurwraig yn sôn bod yna gwynion penodol gan yr etholwyr yn Nwyfor Meirionnydd.

“Mae pobl yn blaenoriaethu costau byw ar hyn o bryd, mae o’n rhywbeth sy’n dod fyny bron bob sgwrs. Hefyd, mae materion i wneud â Chyngor Gwynedd a pharcio yn rhywbeth sydd yn dod i fyny.”

Mae pobol yn poeni am yr argyfwng tai hefyd, a Joanna Stallard yn onest nad oes ganddi atebion hawdd.

“Dw i eisio bod yn ofalus rhag dweud pethau pan does gen i ddim byd i gyflwyno fel datrysiad arall. Ond dw i’n meddwl pob tro rydym yn clywed gan nifer o bobl sydd yn poeni am yr un pwnc a chwyno ei fod yn annheg, mae’n bwysig i bwy bynnag sydd yn ennill i barhau efo’r sgwrs yma.”

Y Gwyrddion

 Ymgeisydd tro cyntaf arall yn Nwyfor Meirionnydd yw Karl Drinkwater sy’n sefyll dros y Blaid Werdd ac yn byw yn yr Alban.

Bu’r dysgwr Cymraeg 54 oed yn byw yng Nghymru am ugain mlynedd, yn astudio am radd meistr yn Adran Llyfrgellyddiaeth Prifysgol Aberystwyth.

Fe weithiodd wedyn yn y brifysgol cyn penderfynu mynd yn awdur ffuglen llawn amser. Bellach mae’n byw yn Dumfries yn yr Alban, ac yn cyfaddef nad yw ar dân tros fynd i Senedd San Steffan yn Llundain.

“Dw i ddim wir eisio bod yn Aelod Seneddol. Y prif reswm dw i’n sefyll ydy i roi’r cyfle i bobol yn Nwyfor Meirionnydd bleidleisio’n wyrdd oherwydd fy mod i wedi cael llond bol, ac wedi bod cael digon drwy fy oes, ar wleidyddiaeth San Steffan,” meddai.

“Does yna ddim llawer rhwng y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr, yn fy marn i…

“Mae’r ffaith fy mod yn sefyll yn rhoi cyfleoedd i mi siarad allan am bethau dydy’r pleidiau mwy ddim yn barod i’w trafod, pethau fel y sefyllfa yn Gaza.

“Ar Balesteina, dydy’r rhan fwyaf o’r gwleidyddion ddim yn barod i hyd yn oed gwneud datganiad ar [y sefyllfa] – ac mae hyn yn mynd yn gwbl groes i beth mae pobol ifanc yn ei wneud drwy brotestio yn heddychlon tu allan i brifysgolion.”

Mae Karl Drinkwater am weld ‘Cynghrair Geltaidd’ yn cael ei sefydlu.

“Y dyfodol delfrydol i fi yw Cymru sy’n annibynnol, Alban sy’n annibynnol ac Iwerddon sy’n annibynnol. Dw i’n gallu gweld nhw’n creu ryw fath o Gynghrair Geltaidd arbennig fyddai efallai yn ail-ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.”

Y Ceidwadwyr

Yr ymgeisydd Ceidwadol y tro yma yw Tomos Day sy’n hanu o Bowys ac yn byw yn Llundain, ble mae yn Gynorthwy-ydd Seneddol i Craig Williams, sydd wedi bod yn Ysgrifennydd Preifat Seneddol i Rishi Sunak ers 2022.

“Dw i’n sefyll i’r Ceidwadwyr oherwydd fy mod yn gwybod, o fy magwraeth, pa mor bwysig ydi hi i gael cyfleoedd cyfartal i bobl, i alluogi gweithwyr i gadw mwy o’u harian, ac yn y bôn i gael y cyfle i berchen ar gartref,” meddai Tomos Day sy’n 27 oed ac yn dysgu siarad Cymraeg.

Dywed bod ei brofiad o weithio yn San Steffan yn help iddo wrth geisio sefyll allan ymysg gweddill yr ymgeiswyr, sydd yn ei eiriau ef “ddim yn cynnig unrhyw beth gwahanol i’r status quo”.

“Mae profiad o’r fath yma yn hanfodol pan mae o’n dod i bolisïau fel y gronfa trefi… Dim ond llais cryf yn San Steffan sydd yn gallu helpu i sicrhau buddsoddiad fel yma”.

Fel pob Tori gwerth ei halen, mae yn feirniadol iawn o record Llywodraeth Cymru yng ngofal y Gwasanaeth Iechyd.

“Hefyd mae’r economi, amaeth a thwristiaeth. Mae’r Cyngor Plaid Cymru yng Ngwynedd a’r Llywodraeth Cymru Lafur wedi bod yn gweithredu polisïau sydd yn parhau i greu difrod i’r economi.”

Lib Dems

Menyw 30 oed o Somerset yw ymgeisydd y Lib Dems. Phoebe Jenkins yw Rheolwr Swyddfa Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, ac mae hi’n byw yng Nghymru ers 2010.

“Ddaru fy mam dyfu fyny yng Nghaerdydd, felly mae o wir yn teimlo fy mod i wedi dychwelyd adref – dw i’n hynod o hapus bod fy mhlant yn medru mynychu ysgol ddwyieithog fel ein bod yn gallu ail adeiladu ein hunaniaeth Gymreig,” meddai.

“Hwn yw fy nhro cyntaf fel ymgeisydd, a dw i’n dod efo syniadau newydd, ac mae gen i ymwybyddiaeth fawr o’r materion anodd sydd yn wynebu teuluoedd yng Nghymru…

“Mae prisiau tai a lleiafswm o dai fforddiadwy yn gwthio pobl allan o gymunedau – ac mae cymunedau mor bwysig. Rydym angen system to wneud yn siŵr bod teuluoedd lleol yn gallu prynu tai yn yr ardaloedd lle cawson nhw eu magu i wneud yn siŵr bod yr iaith Gymraeg a chymunedau Cymreig yn parhau i fod yn fywiog.”

Er i Golwg ofyn am sgwrs gyda’r ymgeisydd Reform, Lucy Murphy, a Joan Ginsberg o blaid Heritage, ni chafwyd ateb.