Beth oedd pobl yn gwneud cyn sgrȋns?

Dwi wedi cael cyfle i fyfyrio ar y cwestiwn yma dros y bythefnos ddiwethaf wedi i’n teledu ni dorri am ei fod yn cael ei orddefnyddio!

Mi gefais neges destun heddiw i ddweud bod y teledu wedi’i drwsio a bod angen ei gasglu. Rhaid cyfaddef nad wyf wrth fy modd efo’r syniad o ddod ȃ’r teledu yn ôl mewn i’r tŷ, a hynny oherwydd sut mae fy mhlant wedi ymateb yn galonogol i’w absenoldeb.