Yn rhifyn 6 Mehefin o Golwg, gwelwn eto lythyrau yn anghytuno gyda’r datblygiad tai diweddaraf yn Sir Gaerfyrddin. Rwy’n cytuno i’r carn gyda’u sylwadau.

Nid yn unig yn Sir Gaerfyrddin mae’r mater yma wedi codi gan fod Sir Conwy yn ogystal gyda thargedau uchelgeisiol iawn o ran nifer o dai newydd i’w hadeiladu yn y sir fel rhan o’r Cynlluniau Datblygu Lleol.