Roedd Harry wedi bod yn ofni Eisteddfod yr Urdd.

Rhyw barchus ofn tawel, dim yn ddigon i amharu ar ei gwsg nac i godi chwys annisgwyl, ond yn anesmwythyd, fel carreg fechan yn ei esgid neu losg haul dan ei ddillad. Roedd o’n teimlo fel petai o’n mynd i gig death metal neu i gyfarfod Merched y Wawr. Hynny yw, i ganol rhywle oedd ddim i bobol fel fo. Rhywle i bobol Cymraeg.