Yr actor a’r diddanwr – sydd yn fwyaf adnabyddus am actio’r cymeriad Ben Dant ar raglenni Cyw – oedd un o lywyddion y dydd yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod… 

Eleni oedd Eisteddfod yr Urdd rhif 14 i Aeron Pughe yng ngwisg y môr-leidr enwog Ben Dant, ac roedd hi’n “fraint” iddo fod yn Llywydd y Dydd ar y dydd Iau, ac ynte wedi elwa o’i brofiadau yn cystadlu yn gyson gydag Aelwyd Bro Ddyfi pan oedd yn iau.