Fyddwn i byth bythoedd yn teithio i rywle fel Manceinion neu Lerpwl i wylio gig Richard Hawley. Tydi hynny ddim am eiliad yn awgrymu nad wyf yn hoff o gerddoriaeth Hawley. Mae caneuon fel ‘Tonight the Streets are Ours’ a ‘Coles Corner’ neu ‘Heavy Rain’ yn hyfryd – does dim dadl am hynny. Os daw Hawley ymlaen ar y radio mi gyd-gannaf. Ond mae teithio yn bell yn rhywbeth arall.