Annwyl Nain,

Dwi heb ’sgwennu atoch chi cyn hyn achos dwi’m yn gwybod eich cyfeiriad newydd chi. Mi ofynnais i Dad amdano fo, ac mi aeth o’n dawel dawel cyn deud, ‘Fedri di’m ’sgwennu at Nain, na fedri Hefin. Ma’ hi ’di marw.’ Sy’n fy nrysu i braidd.