Ddydd Sadwrn diwethaf ymunais â thaith Cylch Llên Llanfairpwll i Fallwyd. Ar ddiwrnod heulog a braf cawsom ein tywys o amgylch yr ardal yn olrhain camau a thirnodau’n gysylltiedig ȃ’r ysgolhaig o glerigwr, Dr John Dafis [1567 – 1644].

Mae ’na deimlad nad yw Dr Dafis, a oedd efo doethuriaeth o Brifysgol Rhydychen ac yn hyddysg yn yr ieithoedd clasurol, wedi derbyn y sylw sy’n ddyledus iddo.