Mae Sara Davies wedi recordio fersiwn dawns ffynci-llawn-egni o ‘Anfonaf Angel’…

Pan ofynnodd cwmni recordio o Sir Gâr wrth Sara Davies, seren Cân i Gymru eleni, a fyddai hi’n fodlon recordio fersiwn ddawns o ‘Anfonaf Angel’ i gefnogi ymgyrch Cymru i gael cystadlu yn yr Eurovision, doedd hi ddim yn rhy siŵr.

Roedd hi wedi canu’r gân o’r blaen, mewn sawl cyngerdd ffurfiol – mae hi’n gyn-aelod o Gôr Ysgol Glanaethwy, Côr Merched y Waun Ddyfal, a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC. Roedd hi’n adnabod ‘Anfonaf Angel’ fel cân deimladwy, araf am golled, a’r un sydd i’w chlywed mewn angladdau. Doedd hi ddim yn siŵr a fyddai hi’n gweddu naws sionc, dros-ben-llestri noson yr Eurovision. Ond cytunodd i’w recordio, ac erbyn hyn mae hi wedi newid ei meddwl.

Mae ei fersiwn dawns newydd sbon danlli hi ar gael i’w chlywed ar y platfformau ffrydio, gyda fideo ohoni, yn llawn dawnswyr, glityr a ffrogiau sgleiniog, ar ei chyfrif YouTube.

“Mae hi fel arfer yn gân sy’n gwneud i bobol grio, nid dawnsio,” meddai Sara Davies. “I ddechre efo, ro’n i’n ansicr iawn. Ond mae hi’n tyfu ar rywun. Mae hi’n gân mor adnabyddus, ac mae o’n rhoi sbin wahanol i’r geiriau. Mae’r alaw mor fachog, ac mae hi’n siwtio trac dawns. Mae pobol jest wedi arfer ei glywed yn y fersiwn arall…

“Mae hi’n mynd i gymryd ychydig o dyfu ar rywun, ond dw i’n meddwl y gwnaiff. Mae o wedi gweithio efo fi beth bynnag! Pwy fase’n meddwl base Robat Arwyn yn gallu creu dance track?”

Cwmni Coco & Cwtsh yng Nghaerfyrddin sydd wedi recordio’r gân, ar ôl creu’r fersiwn ar ei newydd wedd yn wreiddiol ar gyfer seremoni BAFTA Cymru yn 2023. Ffion Emyr a’i canodd ar y noson honno, ac roedd y cyflwynydd Alex Jones o’r farn fod y perfformiad egnïol yn profi bod Cymru yn haeddu cael cystadlu’n annibynnol yn yr Eurovision, a bod eisiau dechrau ymgyrch. Mae’r cwmni nawr yn gobeithio y bydd cân Sara yn annog y Cymry i drafod y syniad a chefnogi’r ymgyrch. “Rydyn ni’n credu’n gryf fod gyda ni fel cenedl rywbeth arbennig i’w gynnig i’r gystadleuaeth,” meddai Ffion Gruffudd, Prif Weithredwr Coco & Cwtsh.

“Mi fyddai’n wych cael Cymru’n cystadlu yna,” meddai Sara Davies wrth Golwg. “Mae Cymru’n cael ei hadnabod fel gwlad y gân, a d’yn ni ddim hyd yn oed yn cael canu yn y gystadleuaeth fwyaf sydd yna yn Ewrop. Dydi o ddim yn gwneud synnwyr.

“Hyd yn oed os na fydden ni yn mynd drwyddo, o leia’ fydden ni wedi cael rhyddhau cân, a chael cystadlu yn y lle cyntaf. Ar y funud does yna ddim proses o gael cystadlu. Beth pe tase Cân i Gymru yn arwain at Ŵyl Ban Geltaidd, ac at yr Eurovision?

“Pam ddim cael mwy o gystadlaethau fel Cân i Gymru ond ei fod fel cân Cymru i’r Eurovision? Mi fyddai hi’n gystadleuaeth dda i S4C. Mae’r Eurovision yn sbort.”

Y dyddiadur yn llenwi

Un o bentref Hen Golwyn ar arfordir Sir Conwy yw Sara Davies, ac mae hi’n byw erbyn hyn yn Llandysul yng ngwaelod Ceredigion, ac yn athrawes Cerdd, Drama a Lles yn Ysgol Henry Richard, Tregaron.

Ar ôl cipio calonnau’r genedl gyda’i chân ‘Ti’ – yn seiliedig ar eiriau ei diweddar daid – yng nghystadleuaeth Cân i Gymru ar 1 Mawrth, mae hi wedi bod yn brysur iawn.

“Rŵan bod pethau’n dechrau sincio i mewn, dw i’n dechrau sylwi beth sydd wedi digwydd. Bod Taid wedi sgrifennu geiriau ar gyfer cân sydd wedi ennill Cân i Gymru a dydi o ddim hyd yn oed yn gwybod. Mi wnaeth hynna fy nharo i. Roedd o wastad yn sôn am Cân i Gymru, ac yn sôn wrtha i i fynd arno fo. Mae o jyst yn crazy.”

Mae mam ei chariad wedi trefnu parti dathlu iddi’r mis yma, yn yr Eagles yn Llanfihangel-ar-Arth. “Ar ôl y noson, chefais i ddim cyfle i ddathlu’n iawn, ac mi ro’n i’n canu mewn priodas y diwrnod wedyn,” eglura. “Bydd o’n neis cael dathlu’n iawn.”

Aeth yn ei blaen gyda ‘Ti’ a chipio’r wobr am y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon ym mis Ebrill. “Mae o jyst wedi gwneud i fi sylwi cymaint rydw i’n mwynhau bod ar lwyfan,” meddai. “Dw i jyst eisio gwneud mwy o ganu, a sgrifennu.”

Mae ei dyddiadur yn llenwi’n gyflym. Sara sy’n agor gŵyl Tregaroc ar 18 Mai, ac fe fydd yn perfformio gyda chôr Johns’ Boys yn Henffordd ddiwedd Mehefin. Mae hi wedi cael ei gwahodd i ganu ym mar Seler, Aberteifi yn yr haf, a bydd yn perfformio ym mhabell Llwyddo’n Lleol yn Tafwyl ym mis Gorffennaf. Mae wedi cael ei gwahodd yn ôl i berfformio yn Nhafarn Sinc, Rosebush ym mis Medi, ar ôl canu yn rhan o noson Hi Hi Hi yno, gyda’r actor Elliw Dafydd, ar ddechrau’r flwyddyn.

Hefyd bu yn canu sawl tro gyda band y cerddor Rhys Taylor, 50 Shades of Lleucu Llwyd, mewn dathliadau a chyngherddau. Bu’n perfformio gyda nhw yn Aberystwyth yn ddiweddar, yn canu fersiynau o ganeuon pop fel ‘Harbwr Diogel’, ‘Livin’ on a Prayer’, ‘Dancing Queen’, ac ‘Ysbryd y Nos’, ac fe ganodd ‘Ti’ hefyd ar y noson.

Oherwydd yr hwyl mae hi’n ei gael gyda’r canu, mae hi wedi hysbysu penaethiaid Ysgol Henry Richard ei bod am roi’r gorau i ddysgu am y tro.

“Dw i eisio i bobol gael clywed fy mod i’n canu yn amlach rŵan,” meddai. “Dw i’n deall bod bywyd cerddor canu ddim mor hawdd â hynny; fe fydda i yn gorfod gwneud ychydig o waith yn athrawes gyflenwi. Ond y mwya’ o gigs alla i gael, y lleia’ o’r gwaith ysgol fydda i yn gallu ei wneud.”

O gofio’r gefnogaeth a gafodd gan ei disgyblion o Dregaron adeg cystadleuaeth Cân i Gymru, maen siŵr eu bod nhw’n siomedig o’i cholli? “Ydyn – mae’r plant yn dweud, ‘O Miss, ’y chi’n gadel? Sa i’n moyn i chi adel!’” meddai, gan ddynwared tafodiaith sir Aberteifi i’r dim.

Recordio albwm

Roedd Sara eisoes wedi dechrau recordio ei chaneuon ei hun gyda label Coco & Cwtsh cyn mynd ar Cân i Gymru. Daeth i nabod Ffion Gruffudd, pennaeth y label, ar ôl bod yn canu mewn cyngherddau parti yr oedd y cwmni yn gyfrifol amdanyn nhw.

“Mi wnaeth hi ofyn i fi a oeddwn i’n hapus i ddod i recordio cwpwl o ganeuon efo hi, gan ei bod hi’n edrych am bobol i’w harwyddo ar y label,” meddai Sara Davies. Erbyn hyn, mae hi wedi recordio wyth o ganeuon ar gyfer albwm, ac eisiau dychwelyd i recordio dwy arall.

“Mae gen i gymaint o ganeuon mae Taid wedi sgrifennu’r geiriau ar eu cyfer, dw i jyst eisio eu cael nhw allan yna yn hytrach na’u bod nhw’n eistedd yn ffeiliau fy ffôn,” meddai. “Wedyn mae rhai caneuon fy hun… dw i eisio dangos i bobol fy mod i’n gallu sgrifennu pethe hefyd. Dyna’r bwriad efo’r label yma. Gobeithio y bydd yn achos i fi gael mwy o waith yn y dyfodol.”

Ar ôl iddi raddio mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Caerdydd, cafodd ysgoloriaeth gyflogedig gyda Chorws Cenedlaethol y BBC. Bu hefyd yn canu wedyn mewn cyngherddau a phriodasau, ond pethau clasurol yn bennaf. “Dim ond newydd ddechrau gwneud y canu pop ydw i,” eglura’r gantores sy’n 27 oed.

Ymhle yr hoffai fod mewn 10 mlynedd? “Fyddwn i’n leicio fy mod i wedi rhyddhau’r albwm a bod albwm arall wedi dod allan,” meddai. “Dw i jyst eisio gallu canu, a byw o’r canu. Dyna’r unig beth rydw i’n dda amdano fo.”

Beth am y gwaith dysgu?

“Mae’r dysgu yn waith caled os dw i’n canu hefyd,” meddai. “Dw i’n ymwybodol iawn o golli llais o hyd. Dyna pam dw i’n cymryd brêc. Ond mi fydda i’n dal i ddysgu piano, a rhoi gwersi canu, ac efallai y gwna i diwtora plant sydd eisio gwneud cerdd fel pwnc ychwanegol neu rywbeth. Dw i jyst eisio brêc o’r dysgu am gyfnod i gael trio canu… ond efallai yr af i ’nôl rywbryd!”

Breuddwyd arall yw cael perfformio ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Syndod yw clywed na fydd Sara yn rhan o arlwy’r Eisteddfod fis Awst. “Dw i’n meddwl eu bod nhw’n bwcio pethe mis Ionawr ac wedyn doedd Cân i Gymru heb fod,” meddai. “Felly dw i’n methu allan ar hwnne.”

Oni fyddai’n syniad da i’r brifwyl gadw slot llwyfan yn rhydd ar gyfer enillydd Cân i Gymru yr un flwyddyn? “Beth am ymgyrch i wneud hwnne!” meddai dan chwerthin.

 

  • Mae ‘Anfonaf Angel’ Sara Davies ar gael i’w ffrydio ar blatfformau digidol, ac mae fideo i gyd-fynd â’r gân ar YouTube @saradaviesmusic. Bydd seremoni derfynol Eurovision 2024 yn digwydd yn Arena Malmö, Sweden ddydd Sadwrn