Fe lwyddodd merched Caerdydd i greu hanes dros y Sul drwy drechu Wrecsam yn ffeinal Cwpan Cymru.

Dyma’r tro cyntaf i dîm benywaidd sicrhau’r trebl – roedd merched y brifddinas eisoes wedi ennill y gynghrair a thlws Adran Trophy.

2-0 oedd hi yn y ffeinal yng Nghasnewydd gyda Rhianne Oakley ac Emma Beynon yn rhwydo tros y Gleision.