Fe fydd y sgrifennwyr yn cael mynd ar encil sgrifennu i Bentre Ifan am ddim yr haf hwn…

Eistedd ar y feranda ar gwr y goedwig, wrth odre mynyddoedd y Preselau, eich ysgrifbin yn eich llaw, yn barod i sgrifennu llinell gyntaf drama fawr nesaf y theatr Gymraeg…

Dyna ddelfryd a allai ddod yn wir i ddeg o gyw-ddramodwyr sydd wedi llwyddo i gael eu dewis ar gyfer cynllun newydd cwmni cydweithredol Theatr Troedyrhiw yn Felin-fach, O Syniad i Sgript.

Ar ôl gwneud galwad agored am awduron, mae’r cwmni wedi dewis 10 o awduron fydd yn cael mynd i aros am ddim ar benwythnos preswyl yng ngwersyll yr Urdd Pentref Ifan yng ngogledd Sir Benfro, rhwng 7 a 9 Mehefin.

Y deg awdur sydd wedi cael eu dewis i fynd ar y cwrs yw Mared Edwards, Cedron Sion, Cennydd Jones, Bethan Jones-Ollerton, Alaw Fflur, Endaf Griffiths, Rebecca Lloyd-Roberts, Cerys Thomas-Ford, Lowri Larsen, Elain Roberts, a Glenys Davies.

Roedd y cwmni theatr wedi trefnu digwyddiad creadigol mentrus arall y llynedd, sef Theatr Unnos – lle y cafodd pedwar o sgwennwyr theatr eu cau yn Theatr Felin-fach dros nos i weithio ar berfformiad ar y cyd erbyn y bore.

“Roedd hwnna’n fodel da, ac fe wnaethon ni feddwl defnyddio hwnna ond gwneud rhywbeth yn debyg, gyda’r nod o greu dramâu,” meddai Naomi Seren ar ran cwmni Troedyrhiw, a oedd yn un o griw’r theatr unnos gyda Carwyn Blayney, Eddie Ladd a Mari Mathias. “Roedd yna deimlad leicien ni fod wedi datblygu hwnna ymhellach.”

Dywed ei bod hi’n anodd i aelodau clybiau Ffermwyr Ifanc ddod o hyd i ddramâu addas ar gyfer y gystadleuaeth ddrama sy’n digwydd bob tair blynedd yn rhan o Wledd Adloniant y mudiad, a hefyd bod darpar sgrifennwyr yn gallu bod yn ddihyder.

“Y gobaith nawr gyda Syniad i Sgript ein bod ni’n dod i ben a chael ryw bum drama mas o’r broses,” meddai. “Bydd y rheiny wedyn yn cael eu cadw ar y llyfrgell ddramâu sydd gan y theatr ar lein, a bydd clybiau Ffermwyr Ifanc wedyn yn cael mynediad atyn nhw, sy’n beth da.”

Ar ôl y profiad unnos, fe gafodd Naomi Seren, sydd hefyd yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Bro Teifi Llandysul, gomisiwn i sgrifennu monolog wedyn ar y cyd â’r actor Anni Dafydd. Bu’r ddwy ar daith ledled Cymru gyda’u drama, Torth Stêl.

“Mae hynny’n dangos os chi yn rhoi cyfle i bobol sgrifennu, mae cymaint o gyfleoedd yn dod mas ohono fe,” meddai. “Yng nghefn gwlad mae’n neis bod pethe annibynnol yn gallu digwydd.

“Sgrifennu dw i’n leicio’n bersonol, felly benderfynon ni wedyn gael syniad i adeiladau ar y momentwm yma, ac i gael cynnyrch.”

Creu cysylltiadau – diolch i Arfor

Mae’r cwmni wedi bod yn ffodus o gael grant gan fenter Arfor i ariannu arhosiad y deg o ddramodwyr ffodus O Syniad i Sgript yng ngwersyll Pentre Ifan.

Menter ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn yw Arfor, sy’n ‘defnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, gynnal yr iaith’.

Diolch i’r nawdd, mae swyddog o’r enw Alaw Jones yn cael ei thalu i gydlynu’r project ar ran gwirfoddolwyr y cwmni theatr.

“Mae hi’n cydlynu’r cyfan i ni wedyn sy’n grêt ar ran y theatr,” meddai Naomi Seren. “Yn aml, pan chi’n trio rhedeg rhywbeth cymunedol, mae’n anodd achos mae popeth yn rhedeg ar amser gwirfoddol pobol fishi. Mae’n neis cael rhywun sy’n gallu rhoi eu dannedd i mewn i’r prosiect hyn. Bydd Alaw yn gallu sicrhau bod cynnyrch yn benllanw i’r project. Mae hi wedi dechre ar y gwaith o drefnu, a chydlynu ac ysgogi.

Yn ôl Naomi Seren, sy’n enedigol o’r Efail-wen yn Sir Benfro ond bellach yn byw ym Mhont-siân, Ceredigion, mae gwersyll ecolegol Pentre Ifan yn lle delfrydol i rywun sydd eisiau llonydd ac ysbrydoliaeth i sgrifennu.

“I fi does dim ardal neisach,” meddai. “Gyda Phentref Ifan newydd gael ei agor ar ei newydd wedd, mae’n neis cael cydweithio fynna. Mae Pentre Ifan yn encil hyfryd, a’r goedwig o gwmpas… gobeithio y bydd yn brofiad ysbrydoledig i’r sgwennwyr, a dy’ch chi ddim ymhell o lan môr yn Nhrefdraeth.

“Mae e’n gyfle euraid. Mae’n swnio fel penwythnos delfrydol os oes rhywun yn ddihyder yn sgrifennu, ac yn teimlo fel llawer i sgrifennwr eich bod chi’n gorfod gwneud amser i sgrifennu. Os ydych chi’n berson fel yna, dyna hyfryd gallu mynd am benwythnos i sgrifennu.”

Fe fydd mentoriaid gyda’r sgwennwyr ar y penwythnos, a’r gobaith yw y bydd cysylltiadau yn cael eu meithrin rhwng y bobol greadigol ar y cwrs, a fyddai’n arwain at brofiadau theatrig newydd yn y dyfodol. “Mae creu cysylltiadau mor bwerus ac mae e’n gallu creu adloniant,” meddai Naomi Seren. “Mae’n neis cael rhywbeth annibynnol sy’n gallu cynnal ei hunan.”