Doedd hi ddim yn lawnt fawr. Hirsgwar perffaith o flaen y tŷ, a borderi blodau a pherlysiau bob ochr iddi, a ffensys pren taclus y tu ôl i’r rheiny i gadw pellter parchus oddi wrth y cymdogion. Doedd Jac erioed wedi meddwl ei fod o’n arddwr o ran anian, ond gan fod yr ardd yno, rhaid oedd ei thendio, ei phalu, ei bodio a’i phrocio a’i dofi. Rhywle yn nyfnderoedd meddwl Jac oedd y syniad fod gardd gyfystyr â pharchus-dra, a fod gardd daclus gyfystyr â meddwl trefnus, doeth, call.