Gyda’r holl newidiadau ar y gweill i Uwch Gynghrair Cymru, roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n werth edrych yn ôl ac ystyried faint mae’r gynghrair wedi newid ers ei sefydlu yn 1992. Ac i wneud hynny, rydw i wedi bod yn darllen llyfr difyr iawn, sef A league of Our Own gan Mark Langshaw. Mae’r llyfr yn adrodd hanes y Gynghrair trwy leisiau’r bobl wnaeth chwarae rhan fawr yn ei hanes. Mae yna lot o ffeithiau a ffigyrau, ond mae’r llyfr ar ei orau pan rydyn ni’n clywed gan bobl fel Joh