Mae gwobr gelf “gwerth chweil” yn cael ei dyfarnu er cof am ŵr a gwraig artistig yn Abertawe…

Ers chwarter canrif bellach, mae Gwobr Wakelin yn Oriel Glynn Vivian, Abertawe wedi rhoi llwyfan i artistiaid pwysig nad oedd eu gwaith ar gadw mewn casgliadau yng Nghymru.

Cafodd y wobr ei sefydlu yn 2000 er cof am ddau o artistiaid dylanwadol Abertawe, Richard a Rosemary Wakelin.