‘Liverpool People’s Festival’ oedd yr enw ar y digwyddiad. Rydan ni angen mynd yn ôl i fis Medi 1984 o flaen St George’s Hall yn Lerpwl. Gig awyr agored a’r prif artistiaid oedd Aswad a’r Mighty Wah! Roedd yr ‘!’ yn y ‘Wah!’ yn fwriadol. Pnawn Sul oedd hi a dyma deithio fyny o Lanfair Caereinion yn arbennig ar gyfer y gig.