Mae tîm pêl-droed merched Dinas Caerdydd gam yn nes at gipio’r trebl y tymor hwn wedi iddyn nhw drechu Abertawe 5-1 a chipio tlws y ‘Genero Adran Trophy’ ddydd Sul diwethaf.

Roedden nhw eisoes wedi ennill cynghrair yr ‘Adran Premier’ fis diwethaf ac mi fydd ganddyn nhw gyfle i ennill Cwpan Cymru yn erbyn Wrecsam fis nesa’.