Dyma Jess Fishlock yn dathlu ar ôl sgorio un o’i dwy gôl yn erbyn Croatia yn y gêm gymhwyso gyntaf ar gyfer Ewros 2025 nos Wener ddiwethaf yn Wrecsam.

A phnawn Mawrth yn Kosovo, Jess oedd y capten wrth iddi ennill cap rhif 150, a Chymru yn fuddugoliaethus eto, 6-0 oddi cartref.

Dechrau campus i’r ymgyrch ddiweddaraf gan dîm y merched wrth iddyn nhw geisio cyrraedd twrnament mawr am y tro cyntaf yn eu hanes.