Mae Llywodraeth Cymru yn gwario £13 miliwn ar geisio helpu busnesau cynhenid yn yr ardaloedd Cymraeg, ond mae Adam Price yn dweud bod angen gwario mwy…
Mae angen ehangu a gwario mwy ar un o brojectau’r Llywodraeth yn y Fro Gymraeg sy’n gobeithio dangos i bobol ifanc nad oes rhaid symud i ardaloedd dinesig er mwyn llwyddo a phrofi gwefr. Dyna farn y gwleidydd gafodd y syniad ar gyfer ARFOR yn y lle cyntaf.
Prif fwriad y project yw cefnogi a chynnal yr iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd trwy greu cyfleoedd economaidd.
Adam Price, cyn-Arweinydd Plaid Cymru, yw un o’r prif ffigyrau y tu ôl i’r rhaglen wedi iddo benderfynu tua degawd yn ôl ei fod eisiau gwneud achos dros feddwl am sefyllfa’r iaith yn y gorllewin Cymraeg ar sail ranbarthol.
Ei syniad oedd creu rhaglen a fyddai’n galluogi i siroedd Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin gydweithio i daclo problem sydd ganddyn nhw’n gyffredin – diboblogi a dirywiad yr iaith.
Wedi cytundeb cyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn 2019, buddsoddwyd £2 filiwn ym menter ARFOR er mwyn datblygu gwedd gyntaf y prosiect hyd at fis Mawrth 2021.
Yn y cyfnod cyntaf hwnnw rhoddwyd cymorth ariannol i sefydlu a datblygu busnesau ac i fentora pobol ifanc drwy law’r prosiect menter Llwyddo’n Lleol.
Yn y cyfnod yma derbyniodd 154 o fusnesau gymorth a chrëwyd 238 o swyddi llawn amser a 89 o swyddi rhan amser. Ac fe gafodd 226 o swyddi hefyd eu gwarchod.
Yn ystod mis Hydref 2022, cyhoeddwyd byddai £11 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi ar gyfer ail gyfnod y rhaglen, a fyddai’n parhau hyd at fis Mawrth 2025.
Gobaith Adam Price yw bod dyfodol hirdymor i ARFOR.
“Cael ei weld fel llwyddiant”
Yn ôl Adam Price, roedd ARFOR yn ymgais i roi enw ar gysyniad roedd pawb yn ymwybodol ohono yn barod.
“Mae’r syniad wedi ennill ei phlwyf, mae pobol yn trafod ARFOR nawr nid yn unig yng nghyd-destun y rhaglen yma ond hefyd yng nghyd-destun ehangach,” meddai.
“Er enghraifft, mae’r comisiwn mae Simon Brooks yn ei arwain ar gymunedau Cymraeg yn bositif am fodolaeth ARFOR ac yn gweld sgôp i’w ddatblygu ymhellach.
“Ond hefyd mae ARFOR yn cael ei weld fel llwyddiant gan y cynghorau sir sydd ohoni.”
Ychwanega bod yno bobol mewn siroedd cyfagos fel Powys, Conwy a Sir Benfro sydd hefyd yn awyddus i fod yn rhan o ARFOR.
“Mae ganddyn nhw gymunedau digon tebyg,” meddai Adam Price.
“Dw i’n gobeithio bod yna fomentwm pellach, a’r cwestiwn yw ble ydyn ni’n mynd efo’r syniad.
“O’m rhan I, mae’r uchelgais oedd gyda ni’n wreiddiol dal yn ganolog, sef dw i’n credu bod angen gwneud strwythur parhaol ar gyfer y gwaith yma.”
Ei gred yw bod nawr angen sefydlu asiantaeth datblygu ranbarthol a fyddai’n atebol yn ddemocrataidd i’r cynghorau sir, fel mae bwrdd ARFOR.
“Mi fyddai gan asiantaeth ARFOR ffocws deuol clir ar hyfywedd economaidd ac ieithyddol,” meddai.
“Dw i’n credu byddai ymestyn i’r ardaloedd cyfagos eraill yn gam i’r cyfeiriad iawn.
“Mae’r buddsoddiad yn sylweddol ac mae mynd o £2 miliwn i £11 miliwn yn grêt, ond dyw e ddim yn ddigon.
“Mae’n rhaid i ni edrych ar gynyddu sylweddol os ydyn ni’n mynd i greu cyllideb sydd yn gallu gwireddu potensial economaidd yr ardaloedd yma.”
Dywed ei fod yn credu byddai asiantaeth ARFOR hefyd yn gallu mynd i’r afael a’r anfantais sydd yn wynebu’r rhanbarth oherwydd diffyg buddsoddi.
“Un o’r pethau a ddylai fod yn digwydd ydy, oherwydd ein bod ni’n draddodiadol â chysylltedd gwael o ran digidol a thrafnidiaeth, bod ein rhanbarth ni yn derbyn fwy o gyllideb y pen i ddadwneud yr anfantais hynny,” meddai.
Cred y byddai ail-agor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin, Caernarfon a Bangor yn enghraifft o “brosiect cyffrous” fyddai’n ysbrydoli pobol.
“Dw i’n credu byddai o hefyd yn creu symbol o’r ffaith gallwch chi fyw bywyd modern mewn unrhyw le yn y byd.”
Dadwneud diboblogi
Un o amcanion ARFOR yw creu twf ym mhoblogaeth y gorllewin Gymraeg er mwyn dadwneud y diboblogi traddodiadol.
Er bod angen buddsoddi yn y sector amaeth a bwyd, dywed Adam Price y dylid hefyd ddechrau meddwl am drefi fel asedau rydyn ni eisiau tyfu.
“Mae hynny’n un ffordd arall o gadw a denu pobol ifanc yn ôl, trwy greu bwrlwm yn yr ardaloedd ac yna creu cyfleoedd economaidd yn dilyn hynny,” meddai.
“Ond hefyd i ddangos bod bywyd diwylliannol a chymdeithasol yn bodoli yma.
“Does ddim angen mynd i gyrchfannau dinesig y tu hwnt i’r rhanbarth er mwyn llwyddo, mae modd llwyddo’n economaidd a byw bywyd cyfoes yn ein rhanbarth ni.”
Un elfen o raglen ARFOR yw’r prosiect Llwyddo’n Lleol sydd wedi bod yn annog pobol ifanc i gychwyn busnesau yn eu cynefin.
Yn ôl Adam Price mae’r “nifer gymharol fach” o fusnesau sydd wedi deillio o’r rhaglen hyd yma wedi gwneud gwahaniaeth mawr.
“Y sylfaen i bopeth ydy cefnogi pobol ifanc a’r genhedlaeth nesaf a chreu cwmnïau sydd yn berchen yn lleol ac sydd â sail leol.”
Fodd bynnag, yn ôl Adam Price, mae angen mwy o fuddsoddiad er mwyn sicrhau canlyniadau ar raddfa mwy.
“Mae yna dueddiad wedi bod ar draws Ewrop yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf i bobol ifanc fynd yn ôl i’w cymunedau a dechrau busnesau,” meddai.
“Rydym ni’n ei weld o’n digwydd yng Nghymru hefyd, lle mae pobol efallai wedi penderfynu eu bod nhw eisiau dilyn llwybr gwahanol i symud i ddinas fawr a chael swydd naw tan bump.
“Mae yna dipyn o bobol yn penderfynu nad ydyn nhw eisiau dilyn y llwybr yna bellach
“Mae’n gwneud i fi deimlo’n optimistaidd.
“Mae ARFOR yn gallu creu’r amodau i bobol wireddu eu potensial eu hunain yn eu cymunedau.”
Pen busnes Pen Wiwar
Un sydd wedi penderfynu sefydlu ei fusnes creu crysau-T cynaliadwy yw Daniel Grant o bentref y Felinheli yng Ngwynedd.
Bu mewn swydd naw tan bump draddodiadol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru am chwe blynedd, cyn cymryd blwyddyn allan i fynd i weithio yn Awstralia.
A thra yno, cafodd swydd gyda chwmni gwerthu paneli solar.
Ac ar ôl dychwelyd i Gymru, roedd yn awyddus i gychwyn ei fusnes ei hun.
Fodd bynnag, gan nad oedd ganddo lawer o brofiad yn y maes entrepreneuriaid doedd Daniel Grant ddim yn siŵr iawn le i ddechrau.
Newidiodd hynny pan welodd hysbyseb ar gyfer rhaglen Llwyddo’n Lleol, sy’n rhan o’r fenter ARFOR, ar Facebook.
“Wnes i gymryd [yr hysbyseb] fel arwydd achos doeddwn i ddim yn gwybod beth i wneud efo’r busnes yma felly wnes i fynd amdano fo,” meddai’r dyn busnes 27 oed wrth Golwg.
Mae Llwyddo’n Lleol yn cynnig sesiynau mentora a chydweithio i entrepreneuriaid ifanc y rhanbarth er mwyn annog sefydlu mwy o fusnesau lleol.
Yn ôl Daniel Grant, mae Llwyddo’n Lleol wedi bod yn “hwb” iddo fynd amdani gyda’i freuddwyd.
“Roedd y sesiynau unai ar-lein neu wyneb i wyneb ac roedd bod o gwmpas gymaint o bobol eraill oedd mewn man tebyg yn eu bywydau yn rhoi cyfle rili unigryw a gwych i drafod y problemau roedden ni’n wynebu,” meddai.
“Roedd jyst cael y person yna oeddet ti’n gallu troi atyn nhw i siarad am y problemau rili’n gwneud pethau’n haws.”
Crysau T Cynaliadwy
Creu dillad cynaliadwy yw prif ffocws Pen Wiwar, menter Daniel Grant, ac mae’n ymfalchïo mewn gallu rhoi llwyfan i artistiaid lleol ddylunio’r gwaith celf.
Roedd yn gwybod o’r man cychwyn ei fod o eisiau i’r amgylchedd chwarae rôl yn ei fusnes.
“Efo’r cwmni paneli solar ac efo Cyfoeth Naturiol Cymru dw i wedi bod yn gweithio i amddiffyn yr amgylchedd,” meddai.
“Felly ro’n i’n gwybod fy mod i eisio cychwyn busnes oedd yn amgylchynu hynny.
“Wnaeth y syniad o ddillad ddod jyst achos fy mod i’n enjoio gwisgo dillad sydd efo ethos cynaliadwy.”
Mae’n gobeithio bydd ei grysau T, sydd wedi eu hysbrydoli gan natur a thirweddau arbennig gogledd Cymru, hefyd yn chwarae eu rhan wrth geisio taclo’r broblem o greu dillad rhad yn gyflym.
“Mae yna gymaint o gwmnïau sydd yn ychwanegu at y broblem o fast fashion ac sydd jyst yn gwerthu dillad er mwyn trio gwneud pres,” meddai.
“Dw i eisio gwerthu dillad sydd efo stori tu ôl iddyn nhw a sicrhau bod y dillad yn cael eu cynhyrchu yn gynaliadwy fel ein bod ni ddim yn ychwanegu at y broblem landfills – sy’n broblem fawr yn y diwydiant ffasiwn.”
Roedd wedi sylweddoli bod bwlch yn y farchnad am gwmni o’r fath yng ngogledd Cymru.
“Dw i eisio bod yn y prif gwmni dillad yma ac arwain y ffordd.”
Gorffennodd Daniel Grant y cwrs Llwyddo’n Lleol yn fuan cyn y Nadolig wedi cyfnod o ddeg wythnos.
Ei fwriad yw gwerthu ar-lein yn y man cyntaf ond mae’n awyddus iawn i sgwrsio gyda siopau lleol er mwyn gwerthu ei ddillad cynaliadwy yn fanno hefyd.
“Fyswn i’n licio eu gwerthu nhw mewn siopa dillad, siopa coffi neu pwy bynnag sy’n fodlon cael nhw rili,” meddai.
“Hefyd, ymhellach lawr y llinell, dw i eisio gwerthu mewn llefydd fel marchnadoedd lleol a marchnadoedd bwyd ac ati.”
Mae yn gweithio gyda chyflenwyr lleol er mwyn creu’r dillad a’u bod nhw bellach wedi cael eu harchebu.
A’r wythnos hon mae ei gasgliad cyntaf o grysau T eisoes wedi cael ei ddatgelu ar ei dudalen Instagram, @pen_wiwar