Roedd masnachu caethweision ar Fôr yr Iwerydd yn golygu herwgipio pobl yn Affrica, eu diwreiddio a’u trawsblannu i wledydd estron yn y byd newydd lle byddent yn cael eu prynu a’u gwerthu cyn gorfod gweithio yn ddi-dâl. Bu iddyn nhw, ag unrhyw blant a aned iddynt, gael eu hamddifadu o ryddid ac addysg a’u cadw’n gaeth hyd nes diwedd eu hoes.