Cymru a’i diwylliant, ei chwedlau a’i hanesion sydd i’w gweld ar fap rhyfeddol cyn-athro Celf o Lanelli

Darlun o’r enw ‘Fools Cap Map of the World’ gan arlunydd anhysbys o’r 16fed ganrif oedd ysbrydoliaeth enillydd Gwobr Lluniadu Kyffin Williams eleni.

Ond Cymru a’i diwylliant, ei chwedlau a’i hanesion sydd i’w gweld ar fap rhyfeddol Ian Fisher, artist a chyn-athro Celf o Lanelli, sef ysgythriad o’r enw ‘Atlas Het Ffŵl’.