Ddechrau’r wythnos roedd yna lawer iawn o sylw i’r ffaith fod biliau’r werin bobol yn codi eto fyth.

Ond ychydig iawn iawn o sylw fuodd i’r ffaith fod cyflogau’r gwleidyddion yng Nghaerdydd a Llundain yn codi, a hynny ar adeg pan mae yna dorri nôl ar y gwario ar wasanaethau cyhoeddus.

Daeth y cyhoeddiad am gynyddu cyflogau Aelodau o Senedd Cymru ar drothwy penwythnos y Pasg, a byddai sinig yn dweud bod yr amseru yn hollol fwriadol: ‘Pawb ar wyliau, wneith neb sylwi.’

Bu’r rhan fwyaf o Gymry eisoes yn dygymod gyda chreisus costau byw ers blynyddoedd, wrth i bris bwyd, gwres a thrydan gynyddu yn arw.

Ddechrau mis Ebrill aeth biliau dŵr, treth y cyngor, a threth cerbyd i fyny, a phris stamp dosbarth cyntaf yn codi i £1.35.

Hefyd, cofiwch bod cyrff cyhoeddus megis Cyngor y Celfyddydau, y Llyfrgell Genedlaethol ac amgueddfeydd y wlad yn gorfod chwilio am arbedion o dros 10% oherwydd prinder cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Felly mae rhai pobol am fod yn colli eu swyddi, a’r gwasanaethau sydd ar gael i’r cyhoedd am grebachu.

Hefyd bu cynghorau sir yn rhybuddio, er bod treth y cyngor yn codi, bod rhai gwasanaethau am orfod mynd.

Ac union yr un pryd â’r holl wasgu yma, mae gwleidyddion Bae Caerdydd am weld eu cyflogau yn codi 3%, o £69,958 i £72,057.

A gwerth nodi hefyd bod staff cefnogol yr Aelodau o’r Senedd am weld eu cyflogau yn cynyddu gan 5.7%. Pa weithwyr eraill sydd am weld y fath godiad mewn cyfnod o honedig gyni ariannol?

5% o godiad sydd wedi ei gynnig i’r Meddygon Iau fu ar streic achos bod eu cyflogau wedi gostwng i £13.65 yr awr dros y 15 mlynedd diwethaf.

Ydy gweithiwr swyddfa yn haeddu mwy na meddyg?

Mae Llywodraeth Cymru wedi edliw yn barhaus bod ganddi lai o arian i’w wario oherwydd bod Llywodraeth Geidwadol Prydain wedi tocio ei chyllideb.

Ond eto, mae digon o arian ar ôl i roi codiad i Aelodau o Senedd Cymru a’u gweithwyr, tra bo cynghorau a chwangos y wlad yn gorfod diswyddo staff.

Ac mae’r agwedd ryfeddol yr un mor amlwg yn San Steffan, ble mae’r Aelodau Seneddol yn cael cynnydd o 5.5%, sy’n golygu bod cyflog aelod o’r meinciau cefn yn codi o £86,584 i £91,346.

Fe glywch chi gyfeillion y gwleidyddion yn mynnu mai ‘cyrff annibynnol’ sy’n penderfynu ar y codiadau cyflog hyn, a bod gwaith gwleidydd yn anodd, hirfaith a diddiolch.

Ond edrychwch ar gyflwr eich gwasanaethau cyhoeddus – y Gwasanaeth Iechyd; Addysg; Trafnidiaeth – a gofynnwch: Ydy’r gwleidyddion sydd ganddo ni yn haeddu codiad cyflog?

Sud wyt ti’n licio dy wyau?

A sôn am hollti’r genedl efo barn di-flewyn-ar-dafod, mae gan Jason Morgan golofn ddeifiol yr wythnos hon yn manylu ar ei frecwasd Full English delfrydol.

Cytuno neu beidio efo fersiwn Yr Hogyn o Rachub o’r pryd cysurlon hwn, fe fydd darllen ei golofn yn saff o godi chwant bwyd.

Does ond gobeithio bod ganddo chi gaffi go handi yn eich cyffiniau!