Portread o Phyl Griffiths  

Mae YesCymru newydd ethol Cadeirydd newydd sy’n awyddus i wneud y mudiad annibyniaeth yn berthnasol i bawb.

Dyna’r her sy’n wynebu Phyl Griffiths, sydd wedi bod yn weithgar â changen Merthyr Tudful o’r mudiad ers blynyddoedd.

Ei bregeth yw bod angen i bawb o bob cefndir a gogwydd gwleidyddol weld y potensial mae annibyniaeth i Gymru yn ei gynnig.