Mae ficeriaid y gogledd wedi bod yn croesawu saith o “enwogion” i’w heglwysi ar gyfer rhaglen deledu sy’n edrych ar ffydd a gwahanol gredoau.

Fe gafodd Pilgrimage – The Road to Wild Wales ei darlledu ar y BBC tros y Pasg.

Roedd y saith yn cerdded 137 o filltiroedd ar hyd Taith Pererin y gogledd, gan gychwyn yng Nghastell y Fflint a gorffen ar Ynys Enlli.