Mae’r grŵp gwerin yn dathlu 50 mlynedd ers iddyn nhw ddod at ei gilydd yng ngholeg y brifysgol yn Aberystwyth yn 1974. Hwyl oedd yn gyrru’r canu, a’r hwyl hwnnw wnaeth eu hannog i barhau ar hyd y degawdau. Mae Sain newydd gyhoeddi chwe albwm y grŵp ar y llwyfannau digidol ac mae’r criw ar daith. Bu Golwg yn holi un o aelodau gwreiddiol Mynediad am Ddim, Emyr Wyn…